Marc 10:32-45
Marc 10:32-45 BNET
Roedden nhw ar eu ffordd i Jerwsalem. Roedd Iesu’n cerdded ar y blaen, a’r disgyblion yn ei ddilyn, ond wedi’u syfrdanu ei fod yn mynd yno. Roedd pawb arall oedd yn ei ddilyn yn ofni’n fawr. Aeth Iesu â’r deuddeg disgybl i’r naill ochr eto i ddweud wrthyn nhw beth oedd yn mynd i ddigwydd iddo. “Pan gyrhaeddwn ni Jerwsalem,” meddai, “Bydda i, Mab y Dyn, yn cael fy mradychu i’r prif offeiriaid a’r arbenigwyr yn y Gyfraith. Byddan nhw’n rhoi dedfryd marwolaeth arna i, ac yna’n fy rhoi yn nwylo’r Rhufeiniaid. Bydd y rheiny yn gwneud sbort am fy mhen, yn poeri arna i, yn fy chwipio a’m lladd. Ond yna, dau ddiwrnod wedyn, bydda i’n dod yn ôl yn fyw.” Aeth Iago ac Ioan, meibion Sebedeus, i siarad â Iesu. “Athro, dŷn ni eisiau gofyn ffafr,” medden nhw. “Beth ga i wneud i chi?” gofynnodd. Dyma nhw’n ateb, “Dŷn ni eisiau cael eistedd bob ochr i ti pan fyddi’n teyrnasu.” “Dych chi ddim yn gwybod am beth dych chi’n siarad!” meddai Iesu. “Allwch chi yfed o’r un gwpan chwerw â mi, neu gael eich bedyddio â’r un bedydd â mi?” “Gallwn,” medden nhw. Yna dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Byddwch chi’n yfed o’r un gwpan â mi, a chewch eich bedyddio â’r un bedydd a mi, ond dim fi sydd i ddweud pwy sy’n cael eistedd bob ochr i mi. Mae’r lleoedd hynny wedi’u cadw i bwy bynnag mae Duw wedi’u dewis.” Pan glywodd y deg disgybl arall am y peth, roedden nhw’n wyllt gyda Iago ac Ioan. Felly dyma Iesu’n eu galw nhw i gyd at ei gilydd, a dweud wrthyn nhw, “Dych chi’n gwybod sut mae’r pwysigion sy’n llywodraethu’r cenhedloedd yn ymddwyn – maen nhw wrth eu bodd yn dangos eu hawdurdod ac yn ei lordio hi dros bobl. Ond rhaid i chi fod yn wahanol. Rhaid i’r sawl sydd am arwain ddysgu gwasanaethu, a phwy bynnag sydd am fod yn geffyl blaen fod yn was i bawb arall. Wnes i ddim disgwyl i bobl eraill fy ngwasanaethu i, er mai fi ydy Mab y Dyn; des i fel gwas i aberthu fy mywyd er mwyn talu’r pris i ryddhau llawer o bobl.”

