Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 28:5-8

Mathew 28:5-8 BNET

Yna dyma’r angel yn dweud wrth y gwragedd, “Peidiwch bod ag ofn. Dw i’n gwybod eich bod chi’n edrych am Iesu, yr un gafodd ei groeshoelio. Dydy e ddim yma; mae wedi dod yn ôl yn fyw! Dyna’n union beth ddwedodd fyddai’n digwydd. Dewch yma i weld lle bu’n gorwedd. Yna ewch ar frys a dweud wrth ei ddisgyblion: ‘Mae Iesu wedi dod yn ôl yn fyw, ac mae’n mynd i Galilea o’ch blaen chi. Cewch ei weld yno.’ Edrychwch, fi sydd wedi dweud wrthoch chi.” Felly dyma’r gwragedd yn rhedeg ar frys o’r bedd i ddweud wrth y disgyblion. Roedden nhw wedi dychryn, ac eto’n teimlo rhyw wefr.