Yna dyma Iesu’n annerch y dyrfa a’i ddisgyblion: “Yr arbenigwyr yn y Gyfraith a’r Phariseaid sy’n dehongli Cyfraith Moses, ac wrth gwrs ‘Dylech chi wrando arnyn nhw a gwneud popeth maen nhw’n ei ddweud.’ Ond peidiwch dilyn eu hesiampl nhw – dŷn nhw ddim yn byw beth maen nhw’n ei bregethu. Maen nhw’n gosod beichiau trwm eu rheolau crefyddol ar ysgwyddau pobl, ond wnân nhw ddim codi bys bach i helpu pobl i gario’r baich. “Maen nhw’n gwneud popeth er mwyn dangos eu hunain. Maen nhw’n gwneud yn siŵr fod y blychau gweddi ar eu breichiau a’u talcennau yn amlwg, a’r taselau hir ar eu clogyn yn dangos mor dduwiol ydyn nhw. Maen nhw wrth eu bodd yn cael y seddi gorau mewn gwleddoedd a’r seddi pwysica yn y synagogau, a chael pobl yn symud o’u ffordd a’u cyfarch yn barchus yn sgwâr y farchnad, a’u galw yn ‘Rabbi’. “Peidiwch chi â gadael i neb eich galw’n ‘Rabbi’. Dim ond un athro sydd gynnoch chi, a dych chi i gyd yn gydradd, fel brodyr a chwiorydd i’ch gilydd. A pheidiwch rhoi’r teitl anrhydedd ‘Y tad’ i neb. Duw yn y nefoedd ydy’ch Tad chi. A pheidiwch gadael i neb eich galw’n ‘meistr’ chwaith. Un meistr sydd gynnoch chi, a’r Meseia ydy hwnnw. Rhaid i’r arweinydd fod yn was.
Darllen Mathew 23
Gwranda ar Mathew 23
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Mathew 23:1-11
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos