Dw i’n eich anfon chi allan fel defaid i ganol pac o fleiddiaid. Felly byddwch yn graff fel nadroedd ond yn ddiniwed fel colomennod. “Gwyliwch eich hunain! Bydd pobl yn eich dwyn o flaen yr awdurdodau ac yn eich chwipio yn eu synagogau. Cewch eich llusgo o flaen llywodraethwyr a brenhinoedd a’ch cyhuddo o fod yn ddilynwyr i mi. Byddwch yn tystiolaethu iddyn nhw ac i bobl o wledydd eraill amdana i. Pan gewch eich arestio, peidiwch poeni beth i’w ddweud o flaen y llys na sut i’w ddweud. Bydd y peth iawn i’w ddweud yn dod i chi ar y pryd. Dim chi fydd yn siarad, ond Ysbryd eich Tad fydd yn siarad trwoch chi. “Bydd dyn yn bradychu ei frawd i gael ei ladd, a thad yn bradychu ei blentyn. Bydd plant yn troi yn erbyn eu rhieni, ac yn eu rhoi i’r awdurdodau i’w dienyddio. Bydd pawb yn eich casáu chi am eich bod yn ddilynwyr i mi, ond bydd y rhai sy’n sefyll yn gadarn i’r diwedd un yn cael eu hachub.
Darllen Mathew 10
Gwranda ar Mathew 10
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Mathew 10:16-22
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos