Josua 22:1-5
Josua 22:1-5 BNET
Dyma Josua yn galw llwythau Reuben, Gad a hanner llwyth Manasse at ei gilydd, a dweud wrthyn nhw: “Dych chi wedi gwneud popeth wnaeth Moses, gwas yr ARGLWYDD, ei ddweud wrthoch chi, ac wedi gwrando arna i hefyd. Wnaethoch chi ddim troi cefn ar eich pobl, llwythau Israel, o gwbl. Dych chi wedi gwneud beth wnaeth yr ARGLWYDD eich Duw ei ofyn gynnoch chi. Bellach mae’r ARGLWYDD eich Duw wedi rhoi heddwch i weddill llwythau Israel, fel gwnaeth e addo. Felly gallwch fynd yn ôl adre i’r tir wnaeth Moses, gwas yr ARGLWYDD, ei roi i chi yr ochr arall i afon Iorddonen. “Ond cofiwch gadw’r rheolau a’r deddfau wnaeth Moses eu rhoi i chi. Caru yr ARGLWYDD eich Duw, byw fel mae e’n dweud, cadw ei reolau, bod yn ffyddlon iddo, a rhoi eich hunain yn llwyr i’w addoli â’ch holl galon!”


