Dyma lythyr Jeremeia at yr arweinwyr oedd ar ôl, yr offeiriaid a’r proffwydi, a phawb arall o Jerwsalem oedd wedi’u cymryd yn gaeth i Babilon gan y Brenin Nebwchadnesar. (Roedd hyn ar ôl i’r Brenin Jehoiachin a’r fam frenhines, swyddogion y palas brenhinol, arweinwyr Jwda a Jerwsalem, y seiri coed a’r gweithwyr metel i gyd gael eu cymryd i ffwrdd yn gaeth o Jerwsalem.) Elasa fab Shaffan a Gemareia fab Chilceia aeth â’r llythyr yno. Roedden nhw wedi’u hanfon i Babilon at Nebwchadnesar gan Sedeceia, brenin Jwda. Dyma’r llythyr:
Dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud wrth y bobl mae wedi’u hanfon yn gaeth o Jerwsalem i Babilon: “Adeiladwch dai a setlo i lawr. Plannwch erddi a bwyta’r hyn sy’n tyfu ynddyn nhw. Priodwch a chael plant. Dewiswch wragedd i’ch meibion a gadael i’ch merched briodi, er mwyn iddyn nhw hefyd gael plant. Dw i eisiau i’ch niferoedd chi dyfu, yn lle lleihau. Gweithiwch dros heddwch a llwyddiant y ddinas lle dw i wedi mynd â chi’n gaeth. Gweddïwch ar yr ARGLWYDD drosti. Ei llwyddiant hi fydd eich llwyddiant chi.”
Achos dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Peidiwch gadael i’r proffwydi sydd gyda chi, a’r rhai hynny sy’n dweud ffortiwn, eich twyllo chi. Peidiwch cymryd sylw o’u breuddwydion. Maen nhw’n hawlio eu bod nhw’n siarad drosto i, ond yn dweud celwydd! Wnes i mo’u hanfon nhw,” meddai’r ARGLWYDD.
Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Pan fydd Babilon wedi rheoli am saith deg mlynedd bydda i’n cymryd sylw ohonoch chi eto. Dyna pryd y bydda i’n gwneud y pethau da dw i wedi’u haddo, a dod â chi yn ôl yma i’ch gwlad eich hunain. Fi sy’n gwybod beth dw i wedi’i gynllunio ar eich cyfer chi,” meddai’r ARGLWYDD. “Dw i’n bwriadu eich bendithio chi, dim gwneud niwed i chi. Dw i am roi dyfodol llawn gobaith i chi. Byddwch yn galw arna i ac yn gweddïo, a bydda i’n gwrando. Os byddwch chi’n chwilio amdana i o ddifri, â’ch holl galon, byddwch chi’n fy ffeindio i. Bydda i’n gadael i chi ddod o hyd i mi,” meddai’r ARGLWYDD. “Bydda i’n rhoi’r cwbl wnaethoch chi ei golli yn ôl i chi. Bydda i’n eich casglu chi yn ôl o’r holl wledydd wnes i eich gyrru chi i ffwrdd iddyn nhw. Bydda i’n dod â chi adre i’ch gwlad eich hunain.”
“Ond mae’r ARGLWYDD wedi rhoi proffwydi i ni yma yn Babilon,” meddech chi. Felly gwrandwch beth mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud am y brenin sy’n eistedd ar orsedd Dafydd yma yn Jerwsalem, ac am eich perthnasau sy’n dal i fyw yma a heb gael eu cymryd i ffwrdd yn gaethion gyda chi. Dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: “Dw i’n mynd i anfon rhyfel, newyn a haint i’w taro nhw. Byddan nhw fel ffigys ffiaidd sydd ddim ffit i’w bwyta. Dw i’n mynd i anfon rhyfel, newyn a haint i’w taro nhw. Bydd beth fydd yn digwydd iddyn nhw yn dychryn pobl y gwledydd i gyd. Byddan nhw’n enghraifft o wlad wedi’i melltithio. Bydd pethau ofnadwy yn digwydd, pethau fydd yn achosi i bobl chwibanu mewn rhyfeddod. A byddan nhw’n destun sbort i’r gwledydd lle bydda i’n eu hanfon nhw’n gaeth. Bydd hyn yn digwydd am eu bod nhw heb wrando na chymryd sylw o beth dw i wedi’i ddweud dro ar ôl tro drwy fy ngweision y proffwydi,” meddai’r ARGLWYDD.
Felly – chi sydd wedi’ch gyrru i ffwrdd o Jerwsalem yn gaeth i Babilon – gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD. Dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud am Ahab fab Colaia a Sedeceia fab Maaseia sy’n proffwydo celwydd ac yn hawlio eu bod nhw’n siarad drosto i: “Dw i’n mynd i’w rhoi nhw yn nwylo Nebwchadnesar, brenin Babilon, a bydd e’n eu lladd nhw o’ch blaenau chi. Bydd gan bobl Jwda sy’n gaeth yn Babilon y dywediad yma wrth felltithio rhywun: ‘Boed i’r ARGLWYDD dy wneud di fel Sedeceia ac Ahab, gafodd eu llosgi’n fyw gan frenin Babilon!’ Maen nhw wedi gwneud pethau gwarthus yn Israel, wedi cysgu gyda gwragedd dynion eraill a dweud celwydd, tra’n honni eu bod nhw’n siarad drosto i. Wnes i ddim dweud dim wrthyn nhw. Ond dw i’n gwybod yn iawn ac wedi gweld beth maen nhw wedi’i wneud,” meddai’r ARGLWYDD.