Rhannodd y tri chant o ddynion yn dair uned filwrol. Yna rhoddodd gorn hwrdd i bawb, a jar gwag gyda fflam yn llosgi tu mewn iddo. “Gwyliwch fi, a gwneud yr un fath â fi,” meddai wrthyn nhw. “Gwyliwch yn ofalus. Pan ddown ni at gyrion gwersyll y Midianiaid, gwnewch yr un fath â fi. Pan fydd fy uned i’n chwythu eu cyrn hwrdd gwnewch chwithau yr un fath o gwmpas y gwersyll i gyd. Yna gwaeddwch, ‘Dros yr ARGLWYDD a thros Gideon!’” Aeth Gideon â chant o filwyr at gyrion y gwersyll ychydig ar ôl deg o’r gloch y nos, pan oedd y gwylwyr wedi newid sifft. A dyma nhw’n chwythu’r cyrn hwrdd a thorri’r jariau oedd ganddyn nhw. Gwnaeth y tair uned yr un fath. Roedden nhw’n dal eu ffaglau yn un llaw ac yn chwythu’r corn hwrdd gyda’r llall. Yna dyma nhw’n gweiddi, “I’r gad dros yr ARGLWYDD a Gideon!” Roedden nhw wedi amgylchynu’r gwersyll i gyd, ac yn sefyll mewn trefn. A phan chwythodd milwyr Gideon eu cyrn hwrdd, dyma filwyr y gelyn yn gweiddi mewn panig a cheisio dianc. A dyma’r ARGLWYDD yn gwneud iddyn nhw ddechrau ymladd ei gilydd drwy’r gwersyll i gyd. Roedd llawer o’r milwyr wedi dianc i Beth-sitta, sydd ar y ffordd i Serera, ar y ffin gydag Abel-mechola, ger Tabath. A dyma ddynion o lwythau Nafftali, Asher a Manasse yn mynd ar eu holau.
Darllen Barnwyr 7
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Barnwyr 7:16-23
7 Days
Still haven't made up your mind about God? Not really sure what you believe? Spend the next seven days exploring the Bible and see what God reveals to you about his true nature. This is your opportunity to read the story for yourself and decide what you believe. The idea of God is too important for you to still be undecided.
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos