Eseia 62:6-7
Eseia 62:6-7 BNET
Dw i’n gosod gwylwyr ar dy waliau di, O Jerwsalem. Fyddan nhw ddim yn dawel nos na dydd! Chi sy’n gweddïo ar yr ARGLWYDD, peidiwch tewi; peidiwch rhoi llonydd iddo nes iddo adfer Jerwsalem, a’i gwneud yn destun mawl drwy’r byd.

