Eseia 42:16
Eseia 42:16 BNET
Dw i’n mynd i arwain y rhai sy’n ddall ar hyd ffordd sy’n newydd, a gwneud iddyn nhw gerdded ar hyd llwybrau sy’n ddieithr iddyn nhw. Bydda i’n gwneud y tywyllwch yn olau o’u blaen ac yn gwneud y tir anwastad yn llyfn. Dyma dw i’n addo ei wneud – a dw i’n cadw fy ngair.


