Eseia 25:6-9
Eseia 25:6-9 BNET
Ar y mynydd hwn bydd yr ARGLWYDD hollbwerus yn paratoi gwledd o fwyd blasus i’r cenhedloedd i gyd: gwledd o winoedd aeddfed, bwyd blasus gyda’r gwin gorau. Ar y mynydd hwn bydd yn dinistrio’r llen sy’n gorchuddio wynebau’r bobloedd, a’r gorchudd sy’n bwrw cysgod dros y cenhedloedd i gyd. Bydd marwolaeth wedi’i lyncu am byth. Bydd fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn sychu’r dagrau oddi ar bob wyneb, a symud y cywilydd sydd wedi bod ar ei bobl o’r tir. –mae’r ARGLWYDD wedi dweud. Bryd hynny bydd y bobl yn dweud

