Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Effesiaid 3:7-20

Effesiaid 3:7-20 BNET

Dyma’r newyddion da dw i’n ei rannu ers i mi fy hun brofi haelioni anhygoel Duw. Fe ydy’r un sy’n rhoi’r nerth i mi wneud y cwbl. Dw i’n neb. Dw i wedi syrthio’n is nag unrhyw un o bobl Dduw. Ac eto fi sydd wedi cael y fraint o bregethu i chi o’r cenhedloedd eraill am y trysor diderfyn sydd gan y Meseia ar ein cyfer ni. Ces fy newis i esbonio cynllun Duw i chi, sef yr hyn roedd Crëwr pob peth wedi’i gadw o’r golwg cyn hyn. Pwrpas Duw ydy i’r rhai sy’n llywodraethu ac i’r awdurdodau yn y byd ysbrydol ddod i weld mor rhyfeddol o gyfoethog ydy ei ddoethineb e. A’r eglwys sy’n dangos hynny iddyn nhw. Dyma oedd cynllun Duw ers cyn i amser ddechrau, ac mae’r cwbl yn cael ei gyflawni yn y Meseia Iesu, ein Harglwydd ni. Dŷn ni’n gwbl rydd a hyderus i glosio at Dduw am ein bod ni’n credu ynddo ac wedi cael ein huno gydag e. Felly plîs peidiwch digalonni o achos beth dw i’n gorfod ei ddioddef drosoch chi. Dylech weld ei fod yn rhywbeth i ymfalchïo ynddo! Wrth feddwl am hyn i gyd dw i’n syrthio ar fy ngliniau i weddïo ar Dduw y Tad. Fe sydd wedi rhoi eu hunaniaeth arbennig i bob grŵp o angylion yn y nefoedd ac i bobloedd ar y ddaear. Dw i’n gweddïo y bydd yn defnyddio’r holl adnoddau bendigedig sydd ganddo i’ch gwneud chi’n gryf, ac y bydd yn rhoi nerth mewnol i chi drwy roi ei Ysbryd Glân i chi. Dw i’n gweddïo hefyd y bydd y Meseia ei hun yn gwneud ei gartref yn eich calonnau chi wrth i chi ymddiried ynddo fe. Dw i am i’w gariad e fod wrth wraidd popeth dych chi’n ei wneud – dyna’r sylfaen i adeiladu arni! Dw i am i chi, a phobl Dduw i gyd, ddeall mor aruthrol fawr ydy cariad y Meseia – mae’n lletach, yn hirach, yn uwch ac yn ddyfnach na dim byd arall! Dw i am i chi brofi y cariad hwnnw sy’n llawer rhy fawr i’w brofi yn llawn, er mwyn i chi gael eich llenwi â’r cwbl sydd gan Dduw ar eich cyfer. Clod iddo! Mae’n gwneud llawer iawn mwy na dim y bydden ni’n mentro gofyn amdano na hyd yn oed yn gallu ei ddychmygu!