Effesiaid 1:7-9
Effesiaid 1:7-9 BNET
Cawson ni’n gollwng yn rhydd am fod marwolaeth ei fab ar y groes wedi gwneud maddeuant ein pechodau yn bosib. Dyna lle dŷn ni’n gweld mor anhygoel o hael mae Duw wedi bod tuag aton ni! Mae wedi tywallt ei haelioni arnon ni, ac wedi rhoi doethineb a synnwyr i ni. Mae wedi rhannu ei gynllun dirgel gyda ni. Roedd wrth ei fodd yn gwneud hyn! Mae wedi gwneud y cwbl drwy’r Meseia. Trefnu




