Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 2:25-41

Actau 2:25-41 BNET

Dyna’n union ddwedodd y Brenin Dafydd: ‘Gwelais fod yr Arglwydd gyda mi bob amser. Am ei fod yn sefyll wrth fy ochr i fydd dim yn fy ysgwyd i. Felly mae nghalon i’n llawen a’m tafod yn gorfoleddu; mae fy nghorff yn byw mewn gobaith, am na fyddi di’n fy ngadael i gyda’r meirw, gadael i’r un sydd wedi cysegru ei hun i ti bydru yn y bedd. Rwyt wedi dangos y ffordd i fywyd i mi; bydd bod gyda ti yn fy llenwi â llawenydd.’ “Frodyr a chwiorydd, mae’n amlwg bod y Brenin Dafydd ddim yn sôn amdano’i hun. Buodd farw a chafodd ei gladdu ganrifoedd yn ôl, ac mae ei fedd yn dal gyda ni heddiw. Ond roedd Dafydd yn broffwyd, ac yn gwybod fod Duw wedi addo y byddai un o’i ddisgynyddion yn eistedd ar ei orsedd, sef y Meseia. Roedd yn sôn am rywbeth fyddai’n digwydd yn y dyfodol. Sôn am y Meseia’n dod yn ôl yn fyw oedd Dafydd pan ddwedodd na chafodd ei adael gyda’r meirw ac na fyddai ei gorff yn pydru’n y bedd! A dyna sydd wedi digwydd! – mae Duw wedi codi Iesu yn ôl yn fyw, a dŷn ni’n lygad-dystion i’r ffaith! Bellach mae’n eistedd yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw. Rhoddodd y Tad yr Ysbryd Glân oedd wedi’i addo, iddo ei dywallt arnon ni. Dyna dych chi wedi’i weld a’i glywed yn digwydd yma heddiw. “Meddyliwch am y peth! – chafodd y Brenin Dafydd mo’i godi i fyny i’r nefoedd, ac eto dwedodd hyn: ‘Dwedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd: “Eistedd yma yn y sedd anrhydedd nes i mi wneud i dy elynion blygu fel stôl i ti orffwys dy draed arni.”’ “Felly dw i am i Israel gyfan ddeall hyn: Mae Duw wedi gwneud yr Iesu wnaethoch chi ei groeshoelio yn Arglwydd, a Meseia.” Roedd pobl wedi’u hysgwyd i’r byw gan beth ddwedodd Pedr, a dyma nhw’n gofyn iddo ac i’r apostolion eraill, “Frodyr, beth ddylen ni wneud?” Dyma Pedr yn ateb, “Rhaid i chi droi cefn ar eich pechod, a chael eich bedyddio fel arwydd eich bod yn perthyn i Iesu y Meseia a bod Duw yn maddau eich pechodau chi. Wedyn byddwch chi’n derbyn yr Ysbryd Glân yn rhodd gan Dduw. Mae Duw wedi addo hyn i chi ac i’ch disgynyddion, ac i bobl sy’n byw yn bell i ffwrdd – pawb fydd yr Arglwydd ein Duw yn eu galw ato’i hun.” Aeth Pedr yn ei flaen i ddweud llawer iawn mwy wrthyn nhw. Roedd yn eu rhybuddio nhw ac yn apelio’n daer, “Achubwch eich hunain o afael y gymdeithas droëdig yma!” Dyma’r rhai wnaeth gredu beth oedd Pedr yn ei ddweud yn cael eu bedyddio – tua tair mil ohonyn nhw y diwrnod hwnnw!