Digwyddodd y pethau hyn i gyd fel esiamplau i’n rhybuddio ni rhag bod eisiau gwneud drwg fel y gwnaethon nhw. Maen nhw’n rhybudd i ni beidio addoli eilun-dduwiau fel y gwnaeth rhai ohonyn nhw. Yr ysgrifau sanctaidd sy’n dweud: “Eisteddodd y bobl i lawr i wledda ac yfed, a chodi i ymgolli mewn rhialtwch paganaidd.” Maen nhw’n rhybudd i ni beidio bod yn anfoesol yn rhywiol fel rhai ohonyn nhw – gyda’r canlyniad fod dau ddeg tri o filoedd ohonyn nhw wedi marw mewn un diwrnod! Maen nhw’n rhybudd i ni beidio rhoi’r Arglwydd ar brawf, fel y gwnaeth rhai ohonyn nhw – a chael eu lladd gan nadroedd. Ac maen nhw’n rhybudd i ni beidio cwyno, fel rhai ohonyn nhw – ac angel dinistriol yn dod ac yn eu lladd nhw. Digwyddodd y cwbl, un ar ôl y llall, fel esiamplau i ni. Cawson nhw eu hysgrifennu i lawr i’n rhybuddio ni sy’n byw ar ddiwedd yr oesoedd. Felly, os dych chi’n un o’r rhai sy’n meddwl eich bod yn sefyll yn gadarn, gwyliwch rhag i chi syrthio! Dydy’r temtasiynau dych chi’n eu hwynebu ddim gwahanol i neb arall. Ond mae Duw yn ffyddlon! Fydd e ddim yn gadael i’r temtasiwn fod yn ormod i chi. Yn wir, pan gewch chi’ch temtio, bydd yn dangos ffordd i chi ddianc a pheidio rhoi mewn. Felly, ffrindiau annwyl, ffowch oddi wrth addoli eilun-dduwiau.
Darllen 1 Corinthiaid 10
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Corinthiaid 10:6-14
5 Days
Are you experiencing a wilderness season, finding no water or oasis for your soul? What if this season held the greatest hope of all: to know God’s Presence intimately, authentically, and passionately? This devotional encourages you that this time is not wasted, though some days you feel as if you are going nowhere. Because no matter what terrain you tread, God is journeying with you as Comforter, Life-giver, & Friend.
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos