Ioan Marc 9:33-37
Ioan Marc 9:33-37 CJW
Gwedi dyfod o hono i Gapernäum, pan oedd efe yn y tŷ, efe á ofynodd iddynt, Beth oeddych yn ymddadleu yn mhlith eich gilydd àr y ffordd? Ond hwy á dawsant a sôn; oblegid buasent yn ymddadleu â’u gilydd àr y ffordd, pwy fyddai fwyaf. Yna gwedi eistedd o hono, efe á alwodd y deuarddeg, ac á ddywedodd wrthynt, Os mỳn neb fod yn gyntaf, efe á fydd olaf o bawb, a gweinidog i bawb. Ac efe á gymerodd blentyn, ac á’i gosododd yn eu canol hwynt; a gwedi iddo ei gymeryd ef yn ei freichiau, efe á ddywedodd wrthynt, Pwybynag á dderbynio un cyfryw blentyn èr fy mwyn i, á’m derbyn i; a phwybynag á’m derbyn i, nid myfi y mae yn ei dderbyn, ond yr hwn á’m danfonodd i.

