Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan Marc 8:34-38

Ioan Marc 8:34-38 CJW

Yna gwedi iddo alw ato y bobl, gyda i ddysgyblion, efe á ddywedodd, A oes neb yn ewyllysio dyfod dàn fy arweiniad i? Ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes, a chanlyned fi. Canys pwybynag á fỳno gadw ei fywyd, á’i cyll; a phwybynag á gollo ei fywyd èr fy mwyn i a’r efengyl, á’i ceidw ef. Pa lesâad i ddyn ped ennillai yr holl fyd, a fforffedu ei fywyd? neu pa beth na ddyry dyn yn bridwerth am ei fywyd? Canys pwybynag y byddo cywilydd ganddo fi a’m geiriau, yn yr odinebus a’r bechadurus genedlaeth hon, bydd cywilydd gàn Fab y Dyn yntau hefyd, pan ddel yn ngogoniant ei Dad, gyda ’r angylion santaidd. Efe á chwanegodd, Yn wir