Ioan Marc 6:30-34
Ioan Marc 6:30-34 CJW
A’r apostolion wedi ymgynnull yn nghyd, á fynegasant bob peth i Iesu, yr hyn á wnaethent, a’r hyn á ddysgasent. Ac efe á ddywedodd wrthynt, Deuwch o’r neilldu i le annghyfannedd, a gorphwyswch ychydig; oblegid yr oedd cynnifer yn dyfod ac yn myned, fel nad oeddynt yn cael hamdden gymaint ag i fwyta. A hwy á giliasant mewn llong i le annghyfannedd, i fod wrthynt eu hunain. Ond llawer o’r rhai à’u gwelsant yn ymadael, ac á wyddent i ba le yr oeddynt yn mordwyo, á redasant allan o’r holl ddinasoedd, ac á ddaethant yn nghyd. Wedi dyfod i dir, efe a welai dyrfa fawr, ac á dosturiodd wrthynt; am eu bod fel dëadell heb fugail; ac efe á ddysgodd iddynt lawer o bethau.

