Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan Marc 14:3-9

Ioan Marc 14:3-9 CJW

A phan oedd efe wrth y bwrdd yn Methania, yn nhŷ Simon, gynt y gwahanglwyfus, daeth gwraig â chanddi flwch alabastr o enaint ysbignard, yr hwn oedd dra drudfawr; a hi á dòrodd y blwch, ac á dywalltodd y gwylybwr àr ei ben ef. Yr oedd yno rai yn anfoddlawn ynynt eu hunain, ac yn dywedyd, I ba beth y gwnaethwyd y golled hon o’r enaint? Oblegid gallasid ei werthu am fwy na thri chann ceiniog, y rhai y gallasid eu rhoddi i’r tylodion. A hwy á rwgnachasant yn ei herbyn hi. Ond Iesu á ddywedodd, Gadewch iddi. Paham yr ydych yn ei blino hi. Hi á wnaeth gymwynas i mi. Oblegid bydd gènych y tylodion bob amser gyda chwi, a gellwch wneuthur daioni iddynt pan y mynoch; ond myfi ni bydd gènych bob amser. Yr hyn à allai hon, hi á’i gwnaeth. Hi á eneiniodd fy nghorff yn mlaen llaw erbyn y claddedigaeth. Yn wir, yr wyf yn dywedyd wrthych, yn mha gongl bynag o’r byd y cyhoeddir y Newydd da, yr hyn á wnaeth y wraig hon yn awr a grybwyllir èr anrhydedd iddi.