Ioan Marc 14:32-42
Ioan Marc 14:32-42 CJW
Yna y daethant i le a’i enw Gethsemane, lle y dywedodd efe wrth ei ddysgyblion, Aroswch yma tra byddwyf yn gweddio. Ac efe á gymerodd gydag ef Bedr, ac Iago, ac Ioan, a chan gael ei daro â gofid a dychryn, efe á ddywedodd wrthynt, Y mae fy enaid wedi ei orchwyo â gloes angeuol; aroswch yma, a gwyliwch. A gwedi myned ychydig yn mlaen, efe á syrthiodd àr y ddaiar, ac á weddiodd, pe dichonadwy fuasai, àr iddo gael ei waredu o’r awr hòno, ac á ddywedodd, Abba (hyny yw Tad,) pob peth sy ddichonadwy i ti; cymer y cwpan hwn ymaith oddwrthyf; èr hyny nid y peth yr ydwyf fi yn ei ewyllysio, ond y peth yr wyt ti. Yna y dychwelodd efe, a gwedi eu cael hwynt yn cysgu, á ddywedodd wrth Bedr, Simon, ai cysgu yr wyt ti? Oni allesit fod yn effro un awr? Gwyliwch a gweddiwch, na orchfyger chwi gàn brofedigaeth; yr ysbryd yn ddiau sy barod, ond y cnawd sydd wan. Trachefn, efe á giliodd, ac á weddiodd, gàn ddywedyd yr un geiriau. Gwedi iddo ddychwelyd, efe á’u cafodd hwynt drachefn yn cysgu; oblegid yr oedd eu llygaid hwynt wedi trymâu, a ni wyddent beth i ateb iddo. Efe á ddaeth y drydedd waith, ac á ddywedodd wrthynt, A ydych chwi yn cysgu yn awr, ac yn gorphwyso? Y mae pob peth drosodd; daeth yr awr; a Mab y Dyn á draddodir i ddwylaw pechaduriaid. Cyfodwch, Awn. Wele! y mae yr hwn sydd yn fy mradychu yn agosâu.


