Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan Marc 14:22-26

Ioan Marc 14:22-26 CJW

A fel yr oeddynt yn bwyta, Iesu á gymerodd fara, a gwedi y fendith, á’i tòrodd, ac á’i rhoddodd iddynt, gàn ddywedyd, Cymerwch; hwn yw fy nghorff. Yna y cymerodd efe y cwpan, a gwedi rhoddi diolch, efe á’i rhoddodd iddynt, a hwy oll á yfasant o hono. Ac efe á ddywedodd wrthynt, Hwn yw fy ngwaed, gwaed y sefydliad newydd, tywalltedig dros lawer. Yn wir, yr wyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf mwy o gynnyrch y winwydden, hyd y dydd hwnw pan yfwyf ef yn newydd yn nheyrnas Duw. A gwedi yr emyn, hwy á aethant i fynydd yr Oleẅwydd.