Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luwc 3:15-18

Luwc 3:15-18 CJW

Fel yr oedd y bobl mewn petrusdod yn nghylch Ioan, pawb yn meddylied ynynt eu hunain, y gallai mai efe oedd y Messia, Ioan á’u cyfarchodd hwynt oll, gàn ddywedyd, Myfi yn ddiau wyf yn trochi mewn dwfr; ond y mae un cryfach na myfi yn dyfod, carai esgid yr hwn nid wyf fi deilwng iddei dattod; efe á’ch trocha chwi yn yr Ysbryd Glan a thân: yr hwn y mae ei raw nithio yn ei law, ac efe á lwyr lanâa, ei rawn; efe á gasgl y gwenith iddei heiniardy, ac á ddifa yr ûs mewn tân anniffoddadwy. A chyda llawer o gynghorion ereill, y cyhoeddodd efe i’r bobl y newydd da.