Luwc 11:1-4
Luwc 11:1-4 CJW
Dygwyddodd bod Iesu yn gweddio mewn rhyw fàn; a phan beidiodd, dywedodd un o’i ddysgyblion wrtho, Feistr, dysg i ni weddio, megys y dysgodd Ioan hefyd iddei ddysgyblion. Yntau á ddywedodd wrthynt, Pan weddioch, dywedwch, Dad, santeiddier dy enw; deled dy Deyrnasiad; dyro i ni bob dydd ein bara peunyddiol; a maddau i ni ein pechodau, canys yr ydym ninnau yn maddau i bawb à droseddant i’n herbyn; a nac arwain ni i brofedigaeth.



