Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Lyfr y Psalmau 42:1-2

Lyfr y Psalmau 42:1-2 SC1850

Fel y brefa ’r hydd a’r carw Am yr afon loyw las, Felly f’ enaid innau, Arglwydd, Sydd yn llefain am dy ras. Mawr yw hiraeth F’ yspryd am gymdeithas Duw. Syched blin sydd ar fy nghalon Am gymdeithas y Duw byw; O na chai ’m hiraethus enaid Byth fod gyd â ’m Harglwydd Dduw! O pa ddiwrnod Caf ymddangos ger dy fron?