Lyfr y Psalmau 104
104
1F’ Enaid, benditha ’r Arglwydd mawr,
Dod iddo ’n awr glodforedd;
Mawr ydwyt, Ior, a’th wisg o nerth
Sy brydferth mewn gogonedd.
2Gwisgo am danat yr wyt Ti
Oleuni fel dilledyn,
A thaenu ’r nefoedd fry fel llen
Ynghrôg uwch ben y dibyn.
3Tylathau ’stefyll cedyrn byd
A esyd yn y dyfroedd;
Ei gerbyd yw y cwmmwl cau,
Mae ’n rhodio brigau ’r gwyntoedd.
4Cenhadau a negeswŷr llon
Yw ’r holl Angylion iddo;
Mae ’n gwneud ei weinidogion glân
Yn ddisglaer dân yn fflammio.
5Seiliodd y ddaear ar ei sail
Yn adail na symmudir;
6Ac fel â gwisg gan ddwylaw Ner
Hi â’r gorddyfnder cuddir.
Y dyfroedd gynt a wnaeth dy law
Safent uwchlaw y bryniau;
7Rhag swn dy daran aent ar ffo,
Gan brysur lifo ’n ffrydiau.
8Ymgoda ’u hymchwydd yn ei nerth
Dros lethrau ’r serth fynyddoedd;
Yna disgynant oll yn ol
Trwy ganol y dyffrynoedd.
Rhoist iddynt eu prïodol le,
9Gan seilio ’u trigle ’n derfyn;
Dros hwn nid ant i guddio ’r byd,
Nid ant dros hyd eu llinyn.
YR AIL RAN
10O ochr y bryn i’r dyffryn dwys
Y rhed y glwys ffynhonnau,
Y rhai yn ffrydiau grisial gant
A gerddant rhwng y bryniau.
11Pob bwystfil maes dônt yma ’n rhydd
Yngwrês y dydd i yfed;
A’r asyn gwyllt, dan bwys y tes,
I dorri gwres ei syched.
12A chlywir llais yr adar mwyn
Ar frig y twyn yn pyngcio;
A’u hyfryd gân bereiddia’ ’riôed
Rhwng cangau ’r coed yn seinio.
13O ’stefyll dwfr y nef uwch ben
Dyfrhêi ’r ddaearen irwedd;
A llwyr ddigonir daear laith
O ffrwyth dy waith yn rhyfedd.
14Ein Harglwydd Ner o’r ddaear las
A bair i’r gwelltglas dyfu
I ddyn a ’nifail o bob rhyw,
A llysiau i’w gwas’naethu.
O’r ddaear dwg i ddyn yr ŷd,
A bara ’n hyfryd luniaeth;
15Fe lifa ’r gwin yn ffrwd o hon
I lonni ei fron mewn alaeth.
Daw’r olew pur o’i chostrel hi
I loywi ei wynebpryd;
A bara i gynnal calon dyn,
I ddal ac estyn bywyd.
16Llawn sugn yw preniau ’r Arglwydd Ion,
Coedwigoedd tirfion Liban;
Holl ffrwythlon goed yr aeron per
A blannodd Ner ei Hunan:
17Cartre’ ’r ciconia; a’r adar mân
Yma a wnan’ eu nythod;
18Y bryniau i’r geifr sy noddfa glir,
A’r creigiau i’r cwningod.
19I brydiau pennodedig dyn
Fe wnaeth ei Hun y lleuad;
Ac yntau ’r haul a ŵyr pa bryd
Mae munud ei fachludiad.
20Gwnei dywyll nos, — pob bwystfil dig
Yn hon o’r wig ymlusgant;
21Rhua cenawon y llew llwyd,
Gan Dduw eu bwyd a geisiant.
22Pan godo haul, hwy ant yn glau
Bob un i’w ffauau diddos:
23Ac at ei waith y cyfyd dyn
Hyd derfyn gwyll y cyfnos.
Y DRYDEDD RAN
24O mor llïosog, Arglwydd mau,
Yw ’th weithrediadau gwirddoeth!
Gwnaethost hwy oll yn ddoeth ac iawn,
Mae ’r byd yn llawn o’th gyfoeth.
25Mor eang ydyw ’r cefnfôr mawr,
A lletted llawr y weilgi!
Mae ynddo fawr a mân yn gwau
Yn heigiau heb rifedi.
26Ar wyneb hwn a’i fynwes llaith
Mae cyrchfa taith y llongau;
Gwneist y Lefiathan sy ’n llon
Yn chŵydd y don yn chwarau.
27Y llïaws hyn ar dir a môr
Oll wrthyt, Ior, disgwyliant;
Am gael eu porthiant yn ei bryd
Attat i gyd edrychant.
28Pan roddech, casglant hwy heb fraw,
O’th haelrodd law fe ’u bwydir;
Agori Di dy law mewn pryd,
A hwythau i gyd a borthir.
29Pan guddiech Di dy wyneb da,
Hwy ’n ebrwydd a drallodir;
Os dygi Di eu bywyd cu,
I angau du fe ’u dygir.
30Creir hwy drachefn yn llu di‐ri’,
Pan roddech Di dy yspryd;
Ac adnewyddir daear las,
Ei gwedd o’th ras fydd hyfryd.
Y BEDWAREDD RAN
31Gogoniant mawr ein Harglwydd fry
A bery yn dragywydd;
Ac o weithredoedd nerth ei law
I’w galon daw llawenydd.
32Fe edrych ar y ddaear gron,
A seiliau hon a grynant;
Ac wrth gyffyrddiad llaw ei nerth,
Mynyddoedd serth a fygant.
33Canaf i’r Arglwydd tra bwyf byw,
Canaf i’m Duw tra fyddwyf;
34Melus yw ’m myfyr am fy Ion,
Yn Nuw hyfrydlon ydwyf.
35Na fydded ar y ddaear gron
Mo ’r annuwiolion mwyach;
Fy enaid innau byth yn rhwydd
Bendithia ’r Arglwydd bellach.
Dewis Presennol:
Lyfr y Psalmau 104: SC1850
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Y Psallwyr gan y Parch. Morris Williams (Nicander). Cyhoeddwyd gan H. Hughes, Llundain 1850. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.