Actau'r Apostolion 15
15
1A daeth rhai i lawr o Iwdea a dechrau dysgu’r brodyr: “Onid enwaedir arnoch yn ôl defod Moesen, ni ellir eich cadw.” 2A chan fod ymryson ac ymddadlau nid bychan rhwng Paul a Barnabas a hwythau,#15:2 Ar ôl hwythau darllenir yn D ac eraill: canys fe ddywedai Paul yn daer am iddynt aros fel y credasent; ond y rhai a ddeuthai o Gaersalem, rhoesant gyfarwyddyd iddynt, i Baul a Barnabas a rhai eraill, i fynd i fyny… penderfynwyd i Baul a Barnabas a rhai eraill ohonynt fynd i fyny at yr apostolion a’r henuriaid yng Nghaersalem ynghylch y cwestiwn yma. 3Felly danfonwyd hwynt gan yr eglwys, a theithient trwy Phoenice a Samaria, gan adrodd hanes troi’r cenhedloedd, a pheri mawr lawenydd i’r holl frodyr. 4Ac wedi iddynt gyrraedd Caersalem derbyniwyd hwynt gan yr eglwys a’r apostolion a’r henuriaid, a mynegasant gymaint a wnaethai Duw gyda hwynt. 5Ond cyfododd rhai o sect y Phariseaid — rhai a oedd wedi credu — gan ddywedyd bod yn rhaid iddynt enwaedu, ac erchi cadw deddf Moesen.
6Ymgynullodd yr apostolion a’r henuriaid i weld ynghylch y mater yma. 7Ac wedi bod ymddadlau mawr, dywedodd Pedr wrthynt, “Frodyr, gwyddoch chwi i Dduw er y dyddiau cyntaf ddewis yn eich plith fod i’r Cenhedloedd glywed gair yr efengyl trwy fy ngenau i a chredu, 8a’r Duw a ŵyr galonnau a ddug dystiolaeth iddynt trwy roddi iddynt hwy yr Ysbryd Glân megis i ninnau, 9ac ni wahaniaethodd ddim rhyngom ni a hwythau pan burodd eu calonnau hwynt trwy ffydd. 10Yn awr, ynteu, paham y rhowch brawf ar Dduw; — dodi ar warr y disgyblion iau na allodd ein tadau na ninnau mo’i dwyn? 11eithr credwn yr un fath â hwythau, mai trwy ras yr Arglwydd Iesu y’n cadwyd.” 12A thawodd yr holl liaws, a gwrandawent ar Farnabas a Phaul yn mynegi gymaint a wnaethai Duw o arwyddion a rhyfeddodau ymhlith y Cenhedloedd drwyddynt hwy. 13Ac wedi iddynt hwythau dewi atebodd Iago, gan ddywedyd, “Frodyr, gwrandewch arnaf fi. 14Mynegodd Simeon y modd y gofalodd Duw gyntaf gael o blith y Cenhedloedd bobl ar ei enw. 15Ac â hyn y cytuna geiriau’r proffwyd, megis y mae’n ysgrifenedig:
16 Wedi hyn y dychwelaf,
ac adeiladaf drachefn babell syrthiedig Dafydd,
a’i hadfeilion a adeiladaf drachefn,
a chyweiriaf hi o newydd,
17 fel y chwilio’r rhelyw o ddynion am yr Arglwydd,
a’r holl genhedloedd y rhoddwyd fy enw i arnynt,
medd yr Arglwydd, gan wneuthur y
pethau hyn 18yn hysbys erioed.#15:18 Amos 9:11–12. Felly yn yr awdurdodau hynaf; darllenir mewn awdurdodau diweddarach, gan wneuthur yr holl bethau hyn. Hysbys i Dduw yw ei weithredoedd oll erioed.
19Felly fy marn i yw na ddaliom i boeni y rhai o blith y Cenhedloedd a dry at Dduw, 20eithr ysgrifennu atynt am iddynt ymgadw oddiwrth offrymau halogedig y delwau ac oddiwrth anniweirdeb ac oddiwrth y peth a dagwyd ac oddiwrth waed#15:20 Yn D gadewir allan ac oddiwrth y peth a dagwyd, ac ar ôl oddiwrth waed fe ddarllenir: a pha bethau bynnag ni fynnent eu gwneuthur iddynt eu hunain, am iddynt beidio â’u gwneuthur i eraill.; 21canys y mae i Foesen er yr oesau cyntaf ym mhob dinas rai sy’n ei bregethu, ac yr ydys yn ei ddarllen yn y synagogau bob Saboth.”
22Yna penderfynodd yr apostolion a’r henuriaid ynghyd â’r holl eglwys ethol gwŷr o’u nifer a’u hanfon i Antiochia gyda Phaul a Barnabas; sef Iwdas, a elwid Barsabbas, a Silas, gwŷr blaenllaw ymhlith y brodyr; 23a rhoi llythyr yn eu llaw: “Y brodyr o apostolion a henuriaid, at y brodyr sydd o’r Cenhedloedd yn Antiochia a Syria a Chilicia, henffych well. 24Oherwydd inni glywed i rai ohonom eich cythryblu ac ansefydlu eich meddyliau â geiriau, heb gael ohonynt orchymyn gennym ni, 25penderfynasom yn unfryd ethol gwŷr a’u hanfon atoch gyda’n hanwyliaid, Barnabas a Phaul, 26dynion a gysegrodd eu bywyd dros enw ein Harglwydd Iesu Grist. 27Anfonwn gan hynny Iwdas a Silas, i fynegi, hwythau, yr un pethau ar air. 28Gwelwyd yn dda gan yr Ysbryd Glân a chennym ninnau na ddodid arnoch ddim ychwaneg o faich, oddieithr y pethau anhepgor hyn; 29ymgadw oddiwrth yr hyn a aberthwyd i ddelwau ac oddiwrth waed ac oddiwrth y peth a dagwyd ac oddiwrth anniweirdeb#15:29 Yn D gadewir allan ac oddiwrth y peth a dagwyd, ac ar ôl anniweirdeb ychwanegir yr un geiriau ag yn adnod 20.; o ymochel rhag y pethau hyn bydd yn dda arnoch. Yn iach.”
30Felly hwythau, wedi eu gollwng, deuthant i lawr i Antiochia, a chynullasant y lliaws a throsglwyddo’r llythyr; 31ac wedi ei ddarllen bu lawen ganddynt am yr anogaeth. 32Iwdas hefyd a Silas, a hwythau’n broffwydi, anogasant y brodyr trwy lawer gair a’u cadarnhau. 33Ac wedi iddynt dreulio ysbaid gollyngwyd hwynt mewn tangnefedd gan y brodyr at y sawl a’u danfonodd. 35Eithr tariodd Paul a Barnabas yn Antiochia, gan ddysgu a phregethu, ynghyd ag eraill lawer, air yr Arglwydd.
36Wedi rhai dyddiau dywedodd Paul wrth Farnabas, “Dychwelwn yn awr i ymweled â’r brodyr ym mhob dinas y cyhoeddasom air yr Arglwydd, i weld sut y mae arnynt.” 37A dymunai Barnabas gymryd gyda hwynt Ioan, a elwid Marc; 38eithr hawliai Paul, am un a gefnodd arnynt ym Mhamffylia, ac nad aethai gyda hwynt at eu gwaith, na châi hwnnw fod gyda hwynt. 39A chododd diflastod, nes ymwahanu ohonynt â’i gilydd; a chymerth Barnabas Farc gydag ef a hwylio ymaith i Gyprus. 40Eithr dewis Silas a wnaeth Paul, ac aeth ymaith, wedi ei gyflwyno i ras yr Arglwydd gan y brodyr; 41a theithiai drwy Syria a Chilicia, gan gadarnhau’r eglwysi.
Dewis Presennol:
Actau'r Apostolion 15: CUG
Uwcholeuo
Rhanna
Cymharu
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru 1945
© Guild of Graduates, University of Wales 1945