Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau'r Apostolion 11

11
1A chlywodd yr apostolion a’r brodyr a oedd yn Iwdea dderbyn hyd yn oed o’r cenhedloedd air Duw. 2A phan aeth Pedr i fyny i Gaersalem, fe ddechreuodd teulu’r enwaediad ymryson ag ef,#11:2 A phan aeth Pedr i fyny i Gaersalem, fe ddechreuodd teulu’r enwaediad ymryson ag ef, Yn D ac eraill darllenir: Yn awr, wedi cryn amser fe chwenychodd Pedr fynd i Gaersalem; ac fe anerchodd y brodyr a’u cadarnhau, gan lefaru llawer a’u dysgu hwynt o ardal i ardal. Fe ymwelodd â hwynt a mynegi iddynt ras Duw. Ac fe ddechreuodd y brodyr a oedd o deulu’r enwaediad ymryson ag ef. 3gan ddywedyd iddo fyned i mewn at wŷr dienwaededig ac iddo fwyta gyda hwynt. 4Ac fe ddechreuodd Pedr esbonio iddynt o’r bron, 5gan ddywedyd, “Yr oeddwn i yn ninas Ioppa yn gweddïo, a gwelais mewn llewyg weledigaeth, rhyw lestr yn disgyn megis llenlliain fawr a ollyngid wrth bedair congl o’r nef, a daeth hyd ataf; 6ac wrth syllu arni dechreuais amgyffred, a gwelais bedwarcarnolion y ddaear a’r bwystfilod a’r ymlusgiaid ac adar y nef; 7clywais hefyd lef yn dywedyd wrthyf, ‘Cyfod, Pedr; lladd a bwyta.’ 8Ac meddwn i, ‘Na, na, Arglwydd; canys dim cyffredin neu aflan nid aeth erioed i’m genau.’ 9Atebodd eilwaith lef o’r nef, ‘Yr hyn a wnaed yn lân gan Dduw, na foed gyffredin gennyt ti.’ 10A hyn a fu deirgwaith, a thynnwyd y cyfan i fyny’n ôl i’r nef. 11Ac ar unwaith dyna dri gŵr yn dyfod a sefyll wrth y tŷ yr oeddwn ynddo, wedi eu hanfon o Gesarea ataf. 12Ac fe ddywedodd yr Ysbryd wrthyf am fyned gyda hwynt heb wahaniaethu ddim. Ac fe aeth gyda ni hefyd y chwe brawd hyn, ac aethom i mewn i dŷ’r gŵr. 13Ac fe fynegodd i ni pa fodd y gwelsai’r angel yn sefyll yn ei dŷ ac yn dywedyd, ‘Anfon i Ioppa, a gyr am Simon, a gyfenwir Pedr, 14yr hwn a lefara wrthyt bethau y’th achubir di a’th holl deulu drwyddynt.’ 15Ac wrth fy mod yn dechrau llefaru, disgynnodd yr Ysbryd Glân arnynt hwy, megis arnom ninnau ar y cyntaf. 16A chofiais air yr Arglwydd, y modd y dywedai, ‘A dwfr y bedyddiodd Ioan, ond chwi, fe’ch bedyddir â’r Ysbryd Glân.’ 17Os rhoddodd Duw, ynteu, iddynt hwy yr unrhyw ddawn ag i ninnau pan gredasom yn yr Arglwydd Iesu Grist, pwy oeddwn i i allu lluddias Duw?” 18Wedi clywed hyn distewi a wnaethant a gogoneddu Duw, gan ddywedyd, “Felly hyd yn oed i’r cenhedloedd y rhoddes Duw yr edifeirwch i fywyd.”
19Y rhai a wasgarasid, ynteu, oherwydd y cyfyngder a godasai ynglŷn â Steffan, teithiasant hyd Phoenice a Chyprus ac Antiochia, heb lefaru’r gair wrth neb ond yn unig wrth Iddewon. 20Ond yr oedd rhai ohonynt yn wŷr o Gyprus a Chyrene, a hwy, wedi dyfod i Antiochia, dechreuasant lefaru wrth y Groegiaid#11:20 Gan ddilyn Nestle; W.H., Helenistiaid. hefyd, gan draethu’r newydd da am yr Arglwydd Iesu. 21Ac yr oedd llaw’r Arglwydd gyda hwynt, a nifer mawr a gredasai a droes at yr Arglwydd. 22A daeth y gair amdanynt i glustiau’r eglwys a oedd yng Nghaersalem, ac anfonasant Farnabas hyd Antiochia; 23wedi iddo ef gyrraedd a gweled gras Duw, bu lawen ganddo, ac anogai bawb o lwyrfryd calon i lynu wrth yr Arglwydd; 24canys yr oedd yn ŵr da, yn llawn o’r Ysbryd Glân ac o ffydd. A chwanegwyd cryn dyrfa i’r Arglwydd. 25Ac fe aeth ymaith i Darsus i geisio Saul, ac wedi ei gael fe’i dug i Antiochia. 26Ac am flwyddyn gyfan yr ymgynullasant#11:26 Neu, y buont westeion. gyda’r eglwys ac y dysgasant gryn dyrfa, ac yn Antiochia y cafodd y disgyblion gyntaf yr enw “Cristnogion.”
27Yn y dyddiau hynny daeth proffwydi i lawr o Gaersalem i Antiochia. 28A chyfododd un ohonynt, a’i enw Agabus, ac arwyddo trwy’r Ysbryd fod newyn mawr ar ddyfod dros yr holl fyd — yr hwn a fu yn amser Clawdius. 29A phenderfynodd y disgyblion, bob un ohonynt yn ôl ei fodd, anfon at wasanaeth y brodyr a oedd yn trigo yn Iwdea. 30A hyn a wnaethant, gan ddanfon at yr henuriaid drwy law Barnabas a Saul.

Uwcholeuo

Rhanna

Cymharu

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda