Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Rhufeiniaid 12:12-16

Rhufeiniaid 12:12-16 BWM

Yn llawen mewn gobaith; yn ddioddefgar mewn cystudd; yn dyfalbarhau mewn gweddi: Yn cyfrannu i gyfreidiau’r saint; ac yn dilyn lletygarwch. Bendithiwch y rhai sydd yn eich ymlid: bendithiwch, ac na felltithiwch. Byddwch lawen gyda’r rhai sydd lawen, ac wylwch gyda’r rhai sydd yn wylo. Byddwch yn unfryd â’ch gilydd: heb roi eich meddwl ar uchel bethau; eithr yn gydostyngedig â’r rhai iselradd. Na fyddwch ddoethion yn eich tyb eich hunain.