Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 44:14-26

Y Salmau 44:14-26 BWM

Gosodaist ni yn ddihareb ymysg y cenhedloedd, yn rhai i ysgwyd pen arnynt ymysg y bobloedd. Fy ngwarthrudd sydd beunydd ger fy mron, a chywilydd fy wyneb a’m todd: Gan lais y gwarthruddwr a’r cablwr; oherwydd y gelyn a’r ymddialwr. Hyn oll a ddaeth arnom; eto ni’th anghofiasom di, ac ni buom anffyddlon yn dy gyfamod. Ni throdd ein calon yn ei hôl, ac nid aeth ein cerddediad allan o’th lwybr di; Er i ti ein curo yn nhrigfa dreigiau, a thoi drosom â chysgod angau. Os anghofiasom enw ein DUW, neu estyn ein dwylo at dduw dieithr: Oni chwilia DUW hyn allan? canys efe a ŵyr ddirgeloedd y galon. Ie, er dy fwyn di y’n lleddir beunydd; cyfrifir ni fel defaid i’w lladd. Deffro, paham y cysgi, O ARGLWYDD? cyfod, na fwrw ni ymaith yn dragywydd. Paham y cuddi dy wyneb? ac yr anghofi ein cystudd a’n gorthrymder? Canys gostyngwyd ein henaid i’r llwch: glynodd ein bol wrth y ddaear. Cyfod yn gynhorthwy i ni, a gwared ni er mwyn dy drugaredd.