Y Salmau 119:1-20
Y Salmau 119:1-20 BWM
Gwyn fyd y rhai perffaith eu ffordd, y rhai a rodiant yng nghyfraith yr ARGLWYDD. Gwyn fyd y rhai a gadwant ei dystiolaethau ef; ac a’i ceisiant ef â’u holl galon. Y rhai hefyd ni wnânt anwiredd, hwy a rodiant yn ei ffyrdd ef. Ti a orchmynnaist gadw dy orchmynion yn ddyfal. O am gyfeirio fy ffyrdd i gadw dy ddeddfau! Yna ni’m gwaradwyddid, pan edrychwn ar dy holl orchmynion. Clodforaf di ag uniondeb calon, pan ddysgwyf farnedigaethau dy gyfiawnder. Cadwaf dy ddeddfau; O na ad fi yn hollol. Pa fodd y glanha llanc ei lwybr? wrth ymgadw yn ôl dy air di. A’m holl galon y’th geisiais: na ad i mi gyfeiliorni oddi wrth dy orchmynion. Cuddiais dy ymadroddion yn fy nghalon, fel na phechwn i’th erbyn. Ti, ARGLWYDD, wyt fendigedig: dysg i mi dy ddeddfau. A’m gwefusau y traethais holl farnedigaethau dy enau. Bu mor llawen gennyf ffordd dy dystiolaethau, â’r holl olud. Yn dy orchmynion y myfyriaf, ac ar dy lwybrau yr edrychaf. Yn dy ddeddfau yr ymddigrifaf: nid anghofiaf dy air. Bydd dda wrth dy was, fel y byddwyf byw, ac y cadwyf dy air. Datguddia fy llygaid, fel y gwelwyf bethau rhyfedd allan o’th gyfraith di. Dieithr ydwyf fi ar y ddaear: na chudd di rhagof dy orchmynion. Drylliwyd fy enaid gan awydd i’th farnedigaethau bob amser.



