Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 113

113
SALM 113
1Molwch yr Arglwydd. Gweision yr Arglwydd, molwch, ie, molwch enw yr Arglwydd.
2Bendigedig fyddo enw yr Arglwydd o hyn allan ac yn dragywydd.
3O godiad haul hyd ei fachludiad, moliannus yw enw yr Arglwydd.
4Uchel yw yr Arglwydd goruwch yr holl genhedloedd; a’i ogoniant sydd goruwch y nefoedd.
5Pwy sydd fel yr Arglwydd ein Duw ni, yr hwn sydd yn preswylio yn uchel,
6Yr hwn a ymddarostwng i edrych y pethau yn y nefoedd, ac yn y ddaear?
7Efe sydd yn codi’r tlawd o’r llwch, ac yn dyrchafu’r anghenus o’r domen,
8I’w osod gyda phendefigion, ie, gyda phendefigion ei bobl.
9Yr hwn a wna i’r amhlantadwy gadw tŷ, a bod yn llawen fam plant. Canmolwch yr Arglwydd.

Dewis Presennol:

Y Salmau 113: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd