Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Philipiaid 2:3-7

Philipiaid 2:3-7 BWM

Na wneler dim trwy gynnen neu wag ogoniant, eithr mewn gostyngeiddrwydd, gan dybied eich gilydd yn well na chwi eich hunain. Nac edrychwch bob un ar yr eiddoch eich hunain, eithr pob un ar yr eiddo eraill hefyd. Canys bydded ynoch y meddwl yma, yr hwn oedd hefyd yng Nghrist Iesu: Yr hwn, ac efe yn ffurf Duw, ni thybiodd yn drais fod yn ogyfuwch â Duw; Eithr efe a’i dibrisiodd ei hun, gan gymryd arno agwedd gwas, ac a wnaed mewn cyffelybiaeth dynion