Ac mi a ewyllysiwn i chwi wybod, frodyr, am y pethau a ddigwyddodd i mi, ddyfod ohonynt yn hytrach er llwyddiant i’r efengyl; Yn gymaint â bod fy rhwymau i yng Nghrist yn eglur yn yr holl lys, ac ym mhob lle arall; Ac i lawer o’r brodyr yn yr Arglwydd fyned yn hyderus wrth fy rhwymau i, a bod yn hyach o lawer i draethu’r gair yn ddi-ofn. Y mae rhai yn wir yn pregethu Crist trwy genfigen ac ymryson; a rhai hefyd o ewyllys da. Y naill sydd yn pregethu Crist o gynnen, nid yn bur, gan feddwl dwyn mwy o flinder i’m rhwymau i: A’r lleill o gariad, gan wybod mai er amddiffyn yr efengyl y’m gosodwyd. Beth er hynny? eto ym mhob modd, pa un bynnag ai mewn rhith, ai mewn gwirionedd, yr ydys yn pregethu Crist: ac yn hyn yr ydwyf fi yn llawen, ie, a llawen fyddaf. Canys mi a wn y digwydd hyn i mi er iachawdwriaeth, trwy eich gweddi chwi, a chynhorthwy Ysbryd Iesu Grist, Yn ôl fy awyddfryd a’m gobaith, na’m gwaradwyddir mewn dim, eithr mewn pob hyder, fel bob amser, felly yr awron hefyd, y mawrygir Crist yn fy nghorff i, pa un bynnag ai trwy fywyd, ai trwy farwolaeth.
Darllen Philipiaid 1
Gwranda ar Philipiaid 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Philipiaid 1:12-20
30 Days
Discover the wisdom of Oswald Chambers, author of My Utmost for His Highest, in this treasury of insights about joy. Each reading features quotations from Chambers along with questions for your own personal reflection. As he inspires and challenges you with his simple and direct biblical wisdom, you will find yourself wanting to spend more time communicating with God.
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos