Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 10:32-45

Marc 10:32-45 BWM

Ac yr oeddynt ar y ffordd yn myned i fyny i Jerwsalem; ac yr oedd yr Iesu yn myned o’u blaen hwynt: a hwy a frawychasant; ac fel yr oeddynt yn canlyn, yr oedd arnynt ofn. Ac wedi iddo drachefn gymryd y deuddeg, efe a ddechreuodd fynegi iddynt y pethau a ddigwyddent iddo ef: Canys wele, yr ydym ni yn myned i fyny i Jerwsalem; a Mab y dyn a draddodir i’r archoffeiriaid, ac i’r ysgrifenyddion; a hwy a’i condemniant ef i farwolaeth, ac a’i traddodant ef i’r Cenhedloedd: A hwy a’i gwatwarant ef, ac a’i fflangellant, ac a boerant arno, ac a’i lladdant: a’r trydydd dydd yr atgyfyd. A daeth ato Iago ac Ioan, meibion Sebedeus, gan ddywedyd, Athro, ni a fynnem wneuthur ohonot i ni yr hyn a ddymunem. Yntau a ddywedodd wrthynt, Beth a fynnech i mi ei wneuthur i chwi? Hwythau a ddywedasant wrtho, Caniatâ i ni eistedd, un ar dy ddeheulaw, a’r llall ar dy aswy, yn dy ogoniant. Ond yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Ni wyddoch pa beth yr ydych yn ei ofyn: a ellwch chwi yfed o’r cwpan yr wyf fi yn ei yfed? a’ch bedyddio â’r bedydd y’m bedyddir i ag ef? A hwy a ddywedasant wrtho, Gallwn. A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Diau yr yfwch o’r cwpan yr yfwyf fi; ac y’ch bedyddir â’r bedydd y bedyddir finnau: Ond eistedd ar fy neheulaw a’m haswy, nid eiddof fi ei roddi; ond i’r rhai y darparwyd. A phan glybu’r deg, hwy a ddechreuasant fod yn anfodlon ynghylch Iago ac Ioan. A’r Iesu a’u galwodd hwynt ato, ac a ddywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch fod y rhai a dybir eu bod yn llywodraethu ar y Cenhedloedd, yn tra-arglwyddiaethu arnynt; a’u gwŷr mawr hwynt yn tra-awdurdodi arnynt. Eithr nid felly y bydd yn eich plith chwi: ond pwy bynnag a ewyllysio fod yn fawr yn eich plith, bydded weinidog i chwi; A phwy bynnag ohonoch a fynno fod yn bennaf, bydded was i bawb. Canys ni ddaeth Mab y dyn i’w wasanaethu, ond i wasanaethu, ac i roi ei einioes yn bridwerth dros lawer.