Yna y llefarodd yr Iesu wrth y torfeydd a’i ddisgyblion, Gan ddywedyd, Yng nghadair Moses yr eistedd yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid. Yr hyn oll gan hynny a ddywedant wrthych am eu cadw, cedwch a gwnewch; eithr yn ôl eu gweithredoedd na wnewch: canys dywedant, ac nis gwnânt. Oblegid y maent yn rhwymo beichiau trymion ac anodd eu dwyn, ac yn eu gosod ar ysgwyddau dynion; ond nid ewyllysiant eu syflyd hwy ag un o’u bysedd. Ond y maent yn gwneuthur eu holl weithredoedd er mwyn eu gweled gan ddynion: canys y maent yn gwneuthur yn llydain eu phylacterau, ac yn gwneuthur ymylwaith eu gwisgoedd yn helaeth; A charu y maent y lle uchaf mewn gwleddoedd, a’r prif gadeiriau yn y synagogau, A chyfarch yn y marchnadoedd, a’u galw gan ddynion, Rabbi, Rabbi. Eithr na’ch galwer chwi Rabbi: canys un yw eich Athro chwi, sef Crist; a chwithau oll brodyr ydych. Ac na elwch neb yn dad i chwi ar y ddaear: canys un Tad sydd i chwi, yr hwn sydd yn y nefoedd. Ac na’ch galwer yn athrawon: canys un yw eich Athro chwi, sef Crist. A’r mwyaf ohonoch a fydd yn weinidog i chwi.
Darllen Mathew 23
Gwranda ar Mathew 23
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Mathew 23:1-11
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos