Luc 2
BWM
2
1Bu hefyd yn y dyddiau hynny, fyned gorchymyn allan oddi wrth Augustus Cesar, i drethu’r holl fyd. 2(Y trethiad yma a wnaethpwyd gyntaf pan oedd Cyrenius yn rhaglaw ar Syria.) 3A phawb a aethant i’w trethu, bob un i’w ddinas ei hun. 4A Joseff hefyd a aeth i fyny o Galilea, o ddinas Nasareth, i Jwdea, i ddinas Dafydd, yr hon a elwir Bethlehem (am ei fod o dŷ a thylwyth Dafydd), 5I’w drethu gyda Mair, yr hon a ddyweddiasid yn wraig iddo, yr hon oedd yn feichiog. 6A bu, tra oeddynt hwy yno, cyflawnwyd y dyddiau i esgor ohoni. 7A hi a esgorodd ar ei mab cyntaf‐anedig, ac a’i rhwymodd ef mewn cadachau, ac a’i dododd ef yn y preseb; am nad oedd iddynt le yn y llety.
8Ac yr oedd yn y wlad honno fugeiliaid yn aros yn y maes, ac yn gwylied eu praidd liw nos. 9Ac wele, angel yr Arglwydd a safodd gerllaw iddynt, a gogoniant yr Arglwydd a ddisgleiriodd o’u hamgylch: ac ofni yn ddirfawr a wnaethant. 10A’r angel a ddywedodd wrthynt, Nac ofnwch: canys wele, yr wyf fi yn mynegi i chwi newyddion da o lawenydd mawr, yr hwn a fydd i’r holl bobl: 11Canys ganwyd i chwi heddiw Geidwad yn ninas Dafydd, yr hwn yw Crist yr Arglwydd. 12A hyn fydd arwydd i chwi; Chwi a gewch y dyn bach wedi ei rwymo mewn cadachau, a’i ddodi yn y preseb. 13Ac yn ddisymwth yr oedd gyda’r angel liaws o lu nefol, yn moliannu Duw, ac yn dywedyd, 14Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ac ar y ddaear tangnefedd, i ddynion ewyllys da. 15A bu, pan aeth yr angylion ymaith oddi wrthynt i’r nef, y bugeiliaid hwythau a ddywedasant wrth ei gilydd, Awn hyd Fethlehem, a gwelwn y peth hwn a wnaethpwyd, yr hwn a hysbysodd yr Arglwydd i ni. 16A hwy a ddaethant ar frys; ac a gawsant Mair a Joseff, a’r dyn bach yn gorwedd yn y preseb. 17A phan welsant, hwy a gyhoeddasant y gair a ddywedasid wrthynt am y bachgen hwn. 18A phawb a’r a’i clywsant, a ryfeddasant am y pethau a ddywedasid gan y bugeiliaid wrthynt. 19Eithr Mair a gadwodd y pethau hyn oll, gan eu hystyried yn ei chalon. 20A’r bugeiliaid a ddychwelasant, gan ogoneddu a moliannu Duw am yr holl bethau a glywsent ac a welsent, fel y dywedasid wrthynt.
21A phan gyflawnwyd wyth niwrnod i enwaedu ar y dyn bach, galwyd ei enw ef IESU, yr hwn a enwasid gan yr angel cyn ei ymddŵyn ef yn y groth. 22Ac wedi cyflawni dyddiau ei phuredigaeth hi, yn ôl deddf Moses, hwy a’i dygasant ef i Jerwsalem, i’w gyflwyno i’r Arglwydd; 23(Fel yr ysgrifennwyd yn neddf yr Arglwydd, Pob gwryw cyntaf‐anedig a elwir yn sanctaidd i’r Arglwydd;) 24Ac i roddi aberth, yn ôl yr hyn a ddywedwyd yn neddf yr Arglwydd, Pâr o durturod, neu ddau gyw colomen. 25Ac wele, yr oedd gŵr yn Jerwsalem, a’i enw Simeon; a’r gŵr hwn oedd gyfiawn a duwiol, yn disgwyl am ddiddanwch yr Israel: a’r Ysbryd Glân oedd arno. 26Ac yr oedd wedi ei hysbysu iddo gan yr Ysbryd Glân, na welai efe angau, cyn iddo weled Crist yr Arglwydd. 27Ac efe a ddaeth trwy’r ysbryd i’r deml: a phan ddug ei rieni y dyn bach Iesu, i wneuthur drosto yn ôl defod y gyfraith; 28Yna efe a’i cymerth ef yn ei freichiau, ac a fendithiodd Dduw, ac a ddywedodd, 29Yr awr hon, Arglwydd, y gollyngi dy was mewn tangnefedd, yn ôl dy air: 30Canys fy llygaid a welsant dy iachawdwriaeth, 31Yr hon a baratoaist gerbron wyneb yr holl bobloedd; 32Goleuni i oleuo y Cenhedloedd, a gogoniant dy bobl Israel. 33Ac yr oedd Joseff a’i fam ef yn rhyfeddu am y pethau a ddywedwyd amdano ef. 34A Simeon a’u bendithiodd hwynt, ac a ddywedodd wrth Mair ei fam ef, Wele, hwn a osodwyd yn gwymp ac yn gyfodiad i lawer yn Israel, ac yn arwydd yr hwn y dywedir yn ei erbyn; 35(A thrwy dy enaid di dy hun hefyd yr â cleddyf;) fel y datguddir meddyliau llawer o galonnau. 36Ac yr oedd Anna broffwydes, merch Phanwel, o lwyth Aser: hon oedd oedrannus iawn, ac a fuasai fyw gyda gŵr saith mlynedd o’i morwyndod; 37Ac a fuasai yn weddw ynghylch pedair a phedwar ugain mlynedd, yr hon nid âi allan o’r deml, ond gwasanaethu Duw mewn ymprydiau a gweddïau ddydd a nos. 38A hon hefyd yn yr awr honno, gan sefyll gerllaw, a foliannodd yr Arglwydd, ac a lefarodd amdano ef wrth y rhai oll oedd yn disgwyl ymwared yn Jerwsalem. 39Ac wedi iddynt orffen pob peth yn ôl deddf yr Arglwydd, hwy a ddychwelasant i Galilea, i’w dinas eu hun Nasareth. 40A’r bachgen a gynyddodd, ac a gryfhaodd yn yr ysbryd, yn gyflawn o ddoethineb: a gras Duw oedd arno ef.
41A’i rieni ef a aent i Jerwsalem bob blwyddyn ar ŵyl y pasg. 42A phan oedd efe yn ddeuddeng mlwydd oed, hwynt‐hwy a aethant i fyny i Jerwsalem yn ôl defod yr ŵyl. 43Ac wedi gorffen y dyddiau, a hwy yn dychwelyd, arhosodd y bachgen Iesu yn Jerwsalem; ac ni wyddai Joseff a’i fam ef: 44Eithr gan dybied ei fod ef yn y fintai, hwy a aethant daith diwrnod; ac a’i ceisiasant ef ymhlith eu cenedl a’u cydnabod. 45A phryd na chawsant ef, hwy a ddychwelasant i Jerwsalem, gan ei geisio ef. 46A bu, ar ôl tridiau, gael ohonynt hwy ef yn y deml, yn eistedd yng nghanol y doctoriaid, yn gwrando arnynt, ac yn eu holi hwynt. 47A synnu a wnaeth ar bawb a’r a’i clywsant ef, oherwydd ei ddeall ef a’i atebion. 48A phan welsant ef, bu aruthr ganddynt. A’i fam a ddywedodd wrtho, Fy mab, paham y gwnaethost felly â ni? wele, dy dad a minnau yn ofidus a’th geisiasom di. 49Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham y ceisiech fi? oni wyddech fod yn rhaid i mi fod ynghylch y pethau a berthyn i’m Tad? 50A hwy ni ddeallasant y gair a ddywedasai efe wrthynt. 51Ac efe a aeth i waered gyda hwynt, ac a ddaeth i Nasareth, ac a fu ostyngedig iddynt. A’i fam ef a gadwodd yr holl eiriau hyn yn ei chalon. 52A’r Iesu a gynyddodd mewn doethineb a chorffolaeth, a ffafr gyda Duw a dynion.

© Cymdeithas y Beibl 1955, 2018

© British and Foreign Bible Society 1955, 2018

Dysgu mwy am Beibl William Morgan - Argraffiad 1955