Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 3:14-18

Ioan 3:14-18 BWM

Ac megis y dyrchafodd Moses y sarff yn y diffeithwch, felly y mae yn rhaid dyrchafu Mab y dyn; Fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, ond caffael ohono fywyd tragwyddol. Canys felly y carodd Duw y byd fel y rhoddodd efe ei unig-anedig Fab, fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, ond caffael ohono fywyd tragwyddol. Oblegid ni ddanfonodd Duw ei Fab i’r byd i ddamnio’r byd, ond fel yr achubid y byd trwyddo ef. Yr hwn sydd yn credu ynddo ef, ni ddemnir: eithr yr hwn nid yw yn credu, a ddamniwyd eisoes; oherwydd na chredodd yn enw unig-anedig Fab Duw.