Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 45:4-8

Genesis 45:4-8 BWM

Joseff hefyd a ddywedodd wrth ei frodyr, Dyneswch, atolwg, ataf fi. Hwythau a ddynesasant. Yntau a ddywedodd, Myfi yw Joseff eich brawd chwi, yr hwn a werthasoch i’r Aifft. Weithian gan hynny na thristewch, ac na ddigiwch wrthych eich hunain, am werthu ohonoch fyfi yma; oblegid i achub einioes yr hebryngodd DUW fyfi o’ch blaen chwi. Oblegid dyma ddwy flynedd o’r newyn o fewn y wlad; ac fe a fydd eto bum mlynedd, y rhai a fydd heb nac âr na medi. A DUW a’m hebryngodd i o’ch blaen chwi, i gadw i chwi hiliogaeth yn y wlad, ac i beri bywyd i chwi, trwy fawr ymwared. Ac yr awr hon nid chwi a’m hebryngodd i yma, ond DUW: ac efe a’m gwnaeth i yn dad i Pharo, ac yn arglwydd ar ei holl dŷ ef, ac yn llywydd ar holl wlad yr Aifft.