Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseciel 22:24-31

Eseciel 22:24-31 BWM

Dywed wrthi hi, fab dyn, Ti yw y tir sydd heb ei buro, heb lawio arno yn nydd dicter. Cydfradwriaeth ei phroffwydi o’i mewn, sydd fel llew rhuadwy yn ysglyfaethu ysglyfaeth; eneidiau a ysasant; trysor a phethau gwerthfawr a gymerasant; ei gweddwon hi a amlhasant hwy o’i mewn. Ei hoffeiriaid a dreisiasant fy nghyfraith, ac a halogasant fy mhethau sanctaidd: ni wnaethant ragor rhwng cysegredig a halogedig, ac ni wnaethant wybod rhagor rhwng yr aflan a’r glân; cuddiasant hefyd eu llygaid oddi wrth fy Sabothau, a halogwyd fi yn eu mysg hwynt. Ei phenaethiaid oedd yn ei chanol fel bleiddiaid yn ysglyfaethu ysglyfaeth, i dywallt gwaed, i ddifetha eneidiau, er elwa elw. Ei phroffwydi hefyd a’u priddasant hwy â chlai annhymherus, gan weled gwagedd, a dewinio iddynt gelwydd, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW, a’r ARGLWYDD heb ddywedyd. Pobl y tir a arferasant dwyll, ac a dreisiasant drais, ac a orthrymasant y truan a’r tlawd; y dieithr hefyd a orthrymasant yn anghyfiawn. Ceisiais hefyd ŵr ohonynt i gau y cae, ac i sefyll ar yr adwy o’m blaen dros y wlad, rhag ei dinistrio; ac nis cefais. Am hynny y tywelltais fy nigofaint arnynt, â thân fy llidiowgrwydd y difethais hwynt; eu ffordd eu hun a roddais ar eu pennau hwynt, medd yr ARGLWYDD DDUW.