Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Pregethwr 2:18-21

Y Pregethwr 2:18-21 BWM

Ie, cas gennyf fy holl lafur yr ydwyf fi yn ei gymryd dan haul; am fod yn rhaid i mi ei adael i’r neb a fydd ar fy ôl i. A phwy a ŵyr ai doeth ai annoeth fydd efe? eto efe a fydd feistr ar fy holl lafur yr hwn a gymerais, ac yn yr hwn y bûm ddoeth dan haul. Dyma wagedd hefyd. Am hynny mi a droais i beri i’m calon anobeithio o’r holl lafur a gymerais dan yr haul. Canys y mae dyn yr hwn y mae ei lafur yn bwyllog, yn synhwyrol, ac yn uniawn: ac y mae yn ei adael yn rhan i’r neb ni lafuriodd wrtho. Hyn hefyd sydd wagedd, a gorthrymder mawr.