Actau’r Apostolion 4:1-13
Actau’r Apostolion 4:1-13 BWM
Ac fel yr oeddynt yn llefaru wrth y bobl, yr offeiriaid, a blaenor y deml, a’r Sadwceaid, a ddaethant arnynt hwy; Yn flin ganddynt am eu bod hwy yn dysgu’r bobl, ac yn pregethu trwy’r Iesu yr atgyfodiad o feirw. A hwy a osodasant ddwylo arnynt hwy, ac a’u dodasant mewn dalfa hyd drannoeth: canys yr oedd hi yn awr yn hwyr. Eithr llawer o’r rhai a glywsant y gair a gredasant: a rhifedi’r gwŷr a wnaed ynghylch pum mil. A digwyddodd drannoeth ddarfod i’w llywodraethwyr hwy, a’r henuriaid, a’r ysgrifenyddion, ymgynnull i Jerwsalem, Ac Annas yr archoffeiriad, a Chaiaffas, ac Ioan, ac Alexander, a chymaint ag oedd o genedl yr archoffeiriad. Ac wedi iddynt eu gosod hwy yn y canol, hwy a ofynasant, Trwy ba awdurdod, neu ym mha enw, y gwnaethoch chwi hyn? Yna Pedr, yn gyflawn o’r Ysbryd Glân, a ddywedodd wrthynt, Chwychwi benaethiaid y bobl, a henuriaid Israel, Od ydys yn ein holi ni heddiw am y weithred dda i’r dyn claf, sef pa wedd yr iachawyd ef; Bydded hysbys i chwi oll, ac i bawb o bobl Israel, mai trwy enw Iesu Grist o Nasareth, yr hwn a groeshoeliasoch chwi, yr hwn a gyfododd Duw o feirw, trwy hwnnw y mae hwn yn sefyll yn iach ger eich bron chwi. Hwn yw’r maen a lyswyd gennych chwi’r adeiladwyr, yr hwn a wnaed yn ben i’r gongl. Ac nid oes iachawdwriaeth yn neb arall: canys nid oes enw arall dan y nef, wedi ei roddi ymhlith dynion, trwy yr hwn y mae yn rhaid i ni fod yn gadwedig. A phan welsant hyfder Pedr ac Ioan, a deall mai gwŷr anllythrennog ac annysgedig oeddynt, hwy a ryfeddasant; a hwy a’u hadwaenent, eu bod hwy gyda’r Iesu.

