Salmau 87
87
SALM LXXXVII
PRIFDDINAS DUW.
Salmgan y Corachiaid.
1Sail Iehofa sydd ar y mynyddoedd santaidd.
2Y mae Iehofa yn caru pyrth Sion
Yn fwy na holl breswylfeydd Iacob.
3Gogoneddus bethau a ddywed Ef am danat,
O ddinas Duw.
4“Cofiaf yr Aifft a Babilon oherwydd fy nghyfeillion yno,
Dacw hefyd Philistia a Thyrus ac Ethiopia, —
Yno y ganwyd y gŵr a’r gŵr.
5Ond am Sion, MAM y galwant hi,
Canys ynddi y ganwyd pob un ohonynt.”
6Y Goruchaf ei hun a’i sicrha hi,
A Iehofa a ysgrifenna yn rhestr y bobl,
“Y gŵr a’r gŵr a anwyd ynddi hi”.
7Canu a dawnsio a wna pawb
Sydd a’u cartref ynot ti.
salm lxxxvii
Pan gyfansoddwyd y Salm hon yr oedd yr Iddewon ar wasgar ledled y byd, ac efallai mai un o’r Iddewon oedd yn byw yn un o’r dinasoedd pell a’i canodd. Ond ym mha ddinas bynnag y trigai Iddew ynddi, Sion oedd piau ei galon, a hyhi oedd ei fam.
Nodiadau
1—3. Safai Ieriwsalem fel Rhufain ar amryw fryniau, a phob un ohonynt yn santaidd oherwydd santeiddrwydd y mynydd y safai’r Deml arno.
Y mae Iehofa yn caru ‘holl breswylfeydd Iacob’, sef dinasoedd eraill y wlad, ac efallai y dinasoedd yn y gwledydd pell lle trigai Iddewon ffyddlon, ond Sion oedd gwrthrych mawr ei gariad, a thrwy broffwydi yr oedd wedi dywedyd bethau rhagorol am dani, a rhoddi addewidion gwych iddi.
4—7. Iehofa sy’n llefaru yn 4 a 5. Ganwyd llawer o’r Iddewon yn yr Aifft a Babilon, etc., a chofir am danynt oherwydd hynny, a pha le bynnag y ganwyd hwynt Sion yw ei mam ysbrydol, a phan ysgrifenno Iehofa restr o’i bobl fel deiliaid Sion y cyfrifir hwynt.
Yn adn. 7 rhoir darlun o lawenydd y neb a gâr Sion. Y mae’n anodd gwybod hyd sicrwydd beth ydyw’r ystyr, y newid lleiaf a ddyry “cartref” yn lle “ffynhonnau”. Yr oedd dawnsio yn rhan o ddefodaeth crefydd gynt. “Ynot ti,” h.y. yn Sion.
Pynciau i’w Trafod:
1. Ystyriwch serch alltud at ganolfan crefydd ei genedl. Ai colled i Gymru ydyw nad oes ganddi hi ganolfan felly? A fyddai’n fantais i Gymru gael prifddinas ac ynddi deml fawr a geisiai rhoddi mynegiant i athrylith crefyddol y genedl?
2. Ai mantais i wareiddiad ydyw gwaith yr Iddew yn glynu wrth ei grefydd ym mha wlad bynnag y bo? Ai mantais ai anfantais oedd y gwasgaru a fu ar yr Iddewon i lwyddiant y cenhadon Cristnogol?
Dewis Presennol:
Salmau 87: SLV
Uwcholeuo
Rhanna
Cymharu
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Detholiad o'r Salmau gan Lewis Valentine. Cyhoeddwyd gan Wasg Ilston ym mis Ebrill 1936.