Psalmau 5
5
V.
1I ’r blaengeiniad tros y pibau. Psalm o eiddo Dafydd.
2Ar fy ngeiriau gwrando Di, Iehofah,
Ystyria fy nwys fyfyrdod,
3Erglyw ar lef fy ngwaedd, fy Mrenhin a ’m Duw,
Canys arnat Ti yr wyf yn gweddïo.
4Iehofah, yn fore y clywi fy llef,
Yn fore y trefnaf fy ngeiriau attat Ti, ac y disgwyliaf;
5Canys nid Duw yn ymhyfrydu mewn anwiredd Tydi (wyt).
Nid anneddu gyda Thi a gaiff y drygionus;
6Nid ymorsaf yr ynfydion o flaen Dy lygaid Di,
Cashâu yr wyt holl weithredwyr drygioni;
7Distrywi lefarwyr celwydd,
Y dyn am waed a thwyll sydd ffiaidd gan Iehofah;
8Ond myfi, yn amlder Dy drugaredd y deuaf i ’th dŷ,
Ymgrymmaf yn llŷs Dy sancteiddrwydd yn Dy ofn.
9Iehofah, arwain fi yn Dy gyfiawnder obiegid fy nghynllwynwyr,
Uniona Dy ffordd Di o ’m blaen;
10Canys nid dim cyfiawnder yn eu genau (sydd),
Eu hymysgaroedd (ŷnt) ddistryw,
Bedd agored (yw) eu gwddf,
Eu tafod y maent yn ei lyfnhâu;
11Par iddynt ddwyn cospedigaeth, O Dduw,
Syrthiant hwy allan o ’u bwriadau,
Yn amlder eu camweddau cwympa Di hwynt,
Canys gwrthryfelasant i ’th erbyn:
12Ond llawenhâed pawb a ymddiriedont ynot Ti,
Yn dragywydd llawen-ganant hwy am i Ti eu hamddiffyn,
A gorfoledded ynot hoffwyr Dy enw!
13Canys Tydi wyt yn bendithio ’r cyfiawn,
O Iehofah, megis â tharian, â charedigrwydd yr amgylchi ef.
Dewis Presennol:
Psalmau 5: CTB
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.