S. Matthew 4
4
1Yna yr Iesu a arweiniwyd i fynu i’r anialwch gan yr Yspryd, i’w demtio gan ddiafol. 2Ac wedi ymprydio ddeugain niwrnod a deugain nos, ar ol hyny y newynodd. 3Ac wedi dyfod Atto, y temtiwr a ddywedodd Wrtho, Os Mab Duw wyt, arch y bo i’r cerrig hyn fyned yn dorthau. 4Ac Yntau gan atteb a ddywedodd, Ysgrifenwyd, “Nid ar fara yn unig y bydd byw dyn, ond ar bob gair yn dyfod allan trwy enau Duw.” 5Yna y cymmerth diafol Ef i’r ddinas sanctaidd; 6a gosododd Ef ar binacl y deml, a dywedodd Wrtho, Os Mab Duw wyt, bwrw Dy Hun i lawr, canys ysgrifenwyd,
“I’w angylion y gorchymyn Efe am Danat,
Ac ar eu dwylaw y’th ddygant,
Rhag un amser darawo o Honot Dy droed wrth garreg.”
7Dywedodd yr Iesu wrtho, Etto yr ysgrifenwyd, “Ni themti yr Arglwydd dy Dduw.” 8Etto y cymmerth diafol Ef i fynydd tra uchel, a dangosodd Iddo holl deyrnasoedd y byd a’u gogoniant; 9a dywedodd Wrtho, Y rhai hyn oll i Ti a roddaf, os syrthi i lawr a’m haddoli i. 10Yna y dywedodd yr Iesu wrtho, Dos ymaith, Satan; canys ysgrifenwyd, “Yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac Ef yn unig a wasanaethi.” 11Yna y gadawodd diafol Ef; ac wele, angylion a ddaethant Atto, ac a weiniasant Iddo.
12Ac wedi clywed o Hono fod Ioan wedi ei draddodi, ciliodd i Galilea; 13ac wedi gadael Natsareth, daeth ac arhosodd yn Caphernahwm, yr hon sydd wrth y môr, ynghyffiniau Zabwlwn a Nephthali; 14fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd trwy Eshaiah y prophwyd, gan ddywedyd,
15“Tir Zabwlwn a thir Nephthali,
Ffordd y môr, tu hwnt i’r Iorddonen,
Galilea y cenhedloedd;
16Y bobl a eisteddai mewn tywyllwch
A welsant oleuni mawr;
Ac i’r rhai yn eistedd ym mro a chysgod angau,
Goleuni a gododd iddynt.”
17O’r pryd hwnw dechreuodd yr Iesu bregethu a dywedyd, Edifarhêwch, canys nesaodd teyrnas nefoedd.
18Ac wrth rodio wrth fôr Galilea gwelodd ddau frawd, Shimon, yr hwn a elwir Petr, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd i’r môr, canys yr oeddynt bysgodwŷr, 19a dywedodd wrthynt, Deuwch ar Fy ol, a gwnaf chwi yn bysgodwŷr dynion. 20A hwy yn uniawn, gan adael y rhwydau, a’i canlynasant Ef. 21Ac wedi myned rhagddo oddiyno, gwelodd ddau frawd arall, Iago fab Zebedëus, ac Ioan ei frawd, yn y cwch ynghyda Zebedëus eu tad, yn cyweirio eu rhwydau; 22a galwodd hwynt; a hwy yn uniawn, gan adael y cwch a’u tad, a’i canlynasant Ef.
23Ac aeth yr Iesu o amgylch yn holl Galilea, gan ddysgu yn eu sunagogau, a chan bregethu Efengyl y deyrnas, a chan iachau pob clefyd a phob afiechyd ym mhlith y bobl. 24Ac aeth allan y sôn am dano Ef i’r holl Suria; a dygasant Atto yr holl rai drwg eu hwyl, gydag amryw glefydau a chnofeydd yn eu dala, rhai cythreulig, a rhai lloerig, a rhai â’r parlys arnynt, ac iachaodd hwynt. 25Ac yr oedd yn Ei ganlyn Ef dorfeydd mawrion o Galilea a Decapolis ac Ierwshalem ac Iwdea ac o’r tu hwnt i’r Iorddonen.
Dewis Presennol:
S. Matthew 4: CTB
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.