S. Matthew 26
26
1A bu pan orphenodd yr Iesu yr holl eiriau hyn, y dywedodd wrth Ei ddisgyblion, 2Gwyddoch mai gwedi deuddydd y Pasg a ddigwydd, a Mab y Dyn a draddodir i’w groes-hoelio. 3Yna y casglwyd ynghyd yr archoffeiriaid ac henuriaid y bobl, i lys yr archoffeiriad, yr hwn a elwid Caiaphas, 4a chydymgynghorasant fel y dalient yr Iesu trwy ddichell, ac y lladdent Ef; 5a dywedasant, Nid ar yr wyl, rhag i gynnwrf gymmeryd lle ymhlith y bobl.
6A phan yr oedd yr Iesu yn Bethania, yn nhŷ Shimon y gwahan-glwyfus, 7daeth Atto wraig a chanddi flwch alabaster o ennaint tra gwerthfawr, ac y’i tywalltodd ar Ei ben Ef pan yn lled-orwedd wrth y ford. 8Ac wedi gweled hyn, y disgyblion a sorrasant, gan ddywedyd, I ba beth y bu’r golled hon? 9Canys gallesid hyn gael ei werthu er llawer, a’i roddi i’r tlodion. 10A chan wybod o’r Iesu, dywedodd wrthynt, Paham mai blinder a berwch i’r wraig? Canys gwaith da a wnaeth hi Arnaf; 11canys peunydd y mae genych y tlodion gyda chwi; ond Myfi, nid beunydd yr wyf genych; 12canys wrth dywallt o honi yr ennaint hwn ar Fy nghorph, er Fy mharottoi i’r bedd y gwnaeth hi hyny; 13yn wir y dywedaf wrthych, Pa le bynnag y pregether yr efengyl hon yn yr holl fyd, mynegir hefyd yr hyn a wnaeth hi, er coffa am dani.
14Yna wedi myned o un o’r deuddeg, yr hwn a elwid Iwdas Ishcariot, at yr archoffeiriaid, dywedodd, 15Pa beth a ewyllysiwch ei roddi i mi, ac myfi a’i traddodaf Ef i chwi? 16A hwy a osodasant iddo ddeg ar hugain o arian, ac o’r amser hwnw y ceisiai gyfleusdra i’w draddodi Ef.
17Ac ar y dydd cyntaf o’r bara croyw daeth y disgyblion at yr Iesu, gan ddywedyd, Pa le yr ewyllysi barottoi o honom i Ti i fwytta’r Pasg? 18Ac Efe a ddywedodd, Ewch i’r ddinas at y cyfryw un, a dywedwch wrtho, Yr Athraw a ddywaid, Fy amser sydd agos; yn dy dŷ di y cadwaf y Pasg ynghyd â’m disgyblion. 19A gwnaeth y disgyblion fel yr ordeiniasai yr Iesu iddynt, a pharottoisant y Pasg. 20A’r hwyr wedi digwydd, lled-orweddodd Efe wrth y ford ynghyd â’i ddeuddeg disgybl; 21ac wrth fwytta o honynt, dywedodd, Yn wir y dywedaf wrthych, Un o honoch a’m traddoda I. 22Ac wedi eu tristhau yn ddirfawr, dechreuasant ddweud Wrtho, pob un o honynt, Ai myfi yw, Arglwydd? 23A chan atteb, dywedodd, Yr hwn a drochodd, ynghyda Mi, ei law yn y ddysgl, hwnw a’m traddoda I. 24Mab y Dyn yn wir sy’n myned fel yr ysgrifenwyd am Dano; ond gwae’r dyn hwnw trwy’r hwn y mae Mab y Dyn yn cael Ei draddodi; da fuasai iddo pe nas ganesid y dyn hwnw. 25A chan atteb, Iwdas, yr hwn oedd yn Ei draddodi Ef, a ddywedodd, Ai myfi yw efe, Rabbi? 26Dywedodd Yntau wrtho, Ti a ddywedaist. Ac wrth fwytta o honynt, yr Iesu, wedi cymmeryd bara ac ei fendithio, a dorrodd ef; ac wedi ei roddi i’r disgyblion, dywedodd, Cymmerwch, bwyttewch: hwn yw Fy nghorph. 27A chwedi cymmeryd cwppan a rhoddi diolch, rhoddodd ef iddynt, gan ddywedyd, Yfwch o hwn, bawb; 28canys hwn yw fy ngwaed, sef yr hwn o’r cyfammod, yr hwn er llaweroedd sy’n cael ei dywallt allan er maddeuant pechodau. 29A dywedaf wrthych, Nid yfaf ddim, o hyn allan, o ffrwyth hwn y winwydden, hyd y dydd hwnw pan yfwyf ef gyda chwi, yn newydd, yn nheyrnas Fy Nhad.
30A chwedi canu hymn, aethant allan i fynydd yr Olewydd.
31Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt, Yr oll o honoch chwi a dramgwyddir Ynof yn y nos hon; canys ysgrifenwyd,
“Tarawaf y bugail, a gwasgerir defaid y praidd.”
32Ond ar ol adgyfodi o Honof, af o’ch blaen i Galilea. 33A chan atteb, Petr a ddywedodd Wrtho, Os “yr oll a dramgwyddir Ynot,” myfi ni’m tramgwyddir byth. 34Dywedodd yr Iesu wrtho, Yn wir y dywedaf wrthyt, Yn y nos hon, cyn i geiliog ganu, tair gwaith y gwedi Fi. 35Dywedodd Petr Wrtho, Hyd yn oed os ynghyda Thi y bo rhaid i mi farw, Tydi ni wadaf ddim. Yn yr un modd yr holl ddisgyblion hefyd a ddywedasant.
36Yna y daeth yr Iesu gyda hwynt i fan a elwir Gethshemane, a dywedodd wrth Ei ddisgyblion, Eisteddwch yma, nes i Mi, wedi myned accw, weddïo. 37Ac wedi cymmeryd Atto Petr a dau fab Zebedëus, dechreuodd dristhau ac ymofidio. 38Yna y dywedodd wrthynt, Trist tros ben yw Fy enaid, hyd angau: arhoswch yma, a gwyliwch gyda Mi. 39Ac wedi myned ymlaen rhyw ychydig, syrthiodd ar Ei wyneb, gan weddïo, a dywedyd, Y Tad mau Fi, os bosibl yw, aed heibio oddi Wrthyf y cwppan hwn! Er hyny, nid fel yr wyf Fi yn ewyllysio, eithr fel yr wyt Ti. 40A dyfod y mae Efe at y disgyblion ac yn eu cael yn cysgu, a dywedodd wrth Petr, Felly; oni ellych, am un awr, wylied gyda Mi? 41Gwyliwch a gweddïwch nad eloch i brofedigaeth. Yr yspryd yn wir sydd barod, ond y cnawd sydd wan. 42Trachefn, wedi myned oddi wrthynt yr ail waith, gweddïodd, gan ddywedyd, Y Tad mau Fi, os na all hwn fyned heibio oddieithr ei yfed o Honof, gwneler Dy ewyllys. 43Ac wedi dyfod etto, cafodd hwynt yn cysgu, canys yr oedd eu llygaid wedi trymhau. 44A chan eu gadael hwynt etto, wedi myned oddi wrthynt, gweddïodd y drydedd waith, ac yr un geiriau a ddywedodd etto. 45Yna dyfod y mae at y disgyblion, a dywedodd wrthynt, Cysgwch bellach, a gorphwyswch; Wele, nesaodd yr awr, a Mab y Dyn sy’n cael Ei draddodi i ddwylaw pechaduriaid. 46Codwch, awn; wele, nesaodd yr hwn sydd yn Fy nhraddodi.
47Ac Efe etto yn llefaru, wele, Iwdas, un o’r deuddeg, a ddaeth; ac ynghydag ef, dyrfa fawr â chleddyfau a ffyn, oddi wrth yr archoffeiriaid a henuriaid y bobl. 48A’r hwn a oedd yn Ei draddodi Ef a roisai iddynt arwydd, gan ddywedyd, Yr hwn a gusanwyf, hwnw yw Efe: deliwch Ef. 49Ac yn uniawn y daeth at yr Iesu, a dywedodd, Henffych well, Rabbi! a chusanodd Ef. 50A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Y cyfaill, am yr hyn yr wyt yma. Yna wedi dyfod Atto rhoisant eu dwylaw ar yr Iesu, a daliasant Ef. 51Ac wele, un o’r rhai gyda’r Iesu wedi estyn ei law a dynnodd ei gleddyf; ac wedi tarawo gwas yr archoffeiriad, dorrodd ymaith ei glust ef. 52Yna y dywedodd yr Iesu wrtho, Dychwel dy gleddyf di i’w le, canys pawb o’r a gymmerant gleddyf, â chleddyf y difethir hwynt. 53A feddyli di na allaf ddeisyf ar Fy Nhad, a rhydd Efe wrthyf yn y fan fwy na deuddeg lleng o angylion? 54Pa fodd, wrth hyny, y cyflawnid yr Ysgrythyrau mai fel hyn y mae rhaid digwydd? 55Yn yr awr honno y dywedodd yr Iesu wrth y torfeydd, Fel yn erbyn lleidr y daethoch allan â chleddyfau a ffyn i’m dal I. Peunydd yn y deml yr eisteddwn yn dysgu, ac ni’m daliasoch. 56Ond hyn oll a wnaethpwyd, fel y cyflawnid Ysgrythyrau’r Prophwydi. Yna y disgyblion oll, gan Ei adael, a ffoisant.
57A’r rhai a ddaliasant yr Iesu a’i dygasant Ef ymaith at Caiaphas yr archoffeiriad, lle yr oedd yr ysgrifenyddion a’r henuriaid wedi ymgasglu ynghyd. 58A Phetr a’i canlynodd Ef, o hirbell, hyd at lys yr archoffeiriad, ac wedi myned i mewn, eisteddodd gyda’r gweinidogion i weled y diwedd. 59A’r archoffeiriaid a’r Cynghor oll a geisient au-dystiolaeth yn erbyn yr Iesu, fel y rhoddent Ef i farwolaeth; 60ac ni chawsant, er dyfod attynt o lawer o au-dystion. 61Ond o’r diwedd, wedi dyfod o ddau attynt, dywedasant, Hwn a ddywedodd, Gallaf ddinystrio teml Dduw, ac mewn tri diwrnod ei hadeiladu hi. 62Ac wedi cyfodi, yr archoffeiriad a ddywedodd Wrtho, Ai nid dim a attebi? Pa beth y mae y rhai hyn yn ei dystiolaethu yn Dy erbyn? 63Ond yr Iesu a dawodd; a’r archoffeiriad a ddywedodd Wrtho, Tynghedaf Di, myn y Duw byw, ddywedyd o Honot i ni ai Tydi yw y Crist, Mab Duw. 64Dywedodd yr Iesu wrtho, Ti a ddywedaist. Ond dywedaf wrthych, Ar ol hyn y gwelwch Fab y Dyn yn eistedd ar ddeheulaw’r Gallu, ac yn dyfod ar gymmylau’r nef. 65Yna yr archoffeiriad a rwygodd ei ddillad, gan ddywedyd, Cablodd: paham y mae rhaid i ni mwy wrth dystion? Wele, yn awr clywsoch y gabledd. 66Pa beth yw eich barn chwi? A hwy, gan atteb, a ddywedasant, Dyledwr i farwolaeth yw. 67Yna y poerasant yn Ei wyneb, a chernodiasant Ef; 68ac eraill a’i curasant Ef, gan ddywedyd, Prophwyda i ni, O Grist: Pwy yw’r hwn a’th darawodd?
69A Petr oedd tu allan yn eistedd yn y cwrt; a daeth atto forwynig, gan ddywedyd, A thydi oeddit gydag Iesu y Galilead. 70Ac efe a wadodd ger bron yr holl rai, gan ddywedyd, Nis gwn pa beth a ddywedi. 71Ac ar ol myned allan o hono i’r porth, gwelodd morwynig arall ef, a dywedodd wrth y rhai oedd yno, A hwn hefyd oedd gydag Iesu y Natzaread. 72A thrachefn y gwadodd, trwy lw, Nid adwaen i mo’r dyn. 73Ac wedi ychydig, wedi dyfod atto o’r rhai oedd yn sefyll yno, dywedasant wrth Petr, Yn wir, tithau hefyd wyt o honynt, canys dy leferydd a’th wna yn amlwg. 74Yna y dechreuodd efe regu a thyngu, Nid adwaen i mo’r dyn. Ac yn uniawn ceiliog a ganodd: a chofiodd Petr ymadrodd yr Iesu, yn dywedyd,
“Cyn i geiliog ganu, tair gwaith y gwedi Fi;”
ac wedi myned allan, wylodd yn chwerw.
Dewis Presennol:
S. Matthew 26: CTB
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.