S. Matthew 18
18
1Yr awr honno daeth y disgyblion at yr Iesu, gan ddywedyd, Pwy, ynte, sydd fwyaf yn nheyrnas nefoedd? 2Ac wedi galw fachgenyn Atto, gosododd ef yn eu canol, 3a dywedodd, Yn wir y dywedaf wrthych, Os na’ch troer a myned fel plant bychain, nid ewch i mewn er dim i deyrnas nefoedd. 4Pwy bynnag, gan hyny, a’i gostyngo ei hun fel y plentyn hwn, efe yw’r mwyaf yn nheyrnas nefoedd. 5A phwy bynnag a dderbynio un plentyn o’r fath yn Fy enw, 6Myfi a dderbyn efe: a phwy bynnag a baro dramgwydd i un o’r rhai bychain hyn y sy’n credu Ynof, da fyddai iddo, pe crogid maen melin mawr am ei wddf, a’i foddi yn eigion y môr. 7Gwae’r byd oblegid tramgwyddau; canys angenrhaid yw dyfod tramgwyddau; ond gwae’r dyn hwnw, trwy’r hwn y mae’r tramgwydd yn dyfod. 8Ac os dy law neu dy droed a bair dramgwydd i ti, tor ef ymaith, a thafi oddi wrthyt: gwell yw i ti fyned i mewn i’r bywyd yn anafus neu yn gloff, nag a dwylaw neu ddau droed genyt, dy daflu i’r tân tragywyddol. 9Ac os dy lygad a bair dramgwydd, tyn ef allan a thafl oddi wrthyt: gwell yw i ti yn unllygeidiog fyned i mewn i’r bywyd, nag a dau lygad genyt dy daflu i’r Gehenna tanllyd. 10Edrychwch na ddirmygoch un o’r rhai bychain hyn, canys dywedaf wrthych, Eu hangylion yn y nefoedd bob amser a welant wyneb Fy Nhad yr Hwn sydd yn y nefoedd. Pa beth yw eich barn chwi? 12Os bydd gan ryw ddyn gant o ddefaid, a myned o un o honynt ar gyfeiliorn, onid, gan adael y cant namyn un, i’r mynyddoedd yr aiff, a cheisio yr hon a aeth ar gyfeiliorn? 13Ac os bydd ei chael ganddo, yn wir meddaf i chwi, llawenycha drosti mwy na thros y cant namyn un y rhai nid aethent ar gyfeiliorn. 14Felly nid oes ewyllys gan eich Tad yr Hwn sydd yn y nefoedd, gyfrgolli’r un o’r rhai bychain hyn.
15Ac os pechu yn dy erbyn a wna dy frawd, dos ac argyhoedda ef rhyngot ti ac ef ar ei ben ei hun. Os arnat y gwrandawo, ynnillaist dy frawd. 16Ond os na wrandawo, cymmer gyda thi etto un neu ddau, fel yngenau dau neu dri o dystion y sefydler pob gair. 17Ac os esgeulusa wrando arnynt, dywaid wrth yr eglwys; ac os ar yr eglwys yr esgeulusa wrando, bydded i ti fel yr ethnig a’r treth-gymmerwr. 18Yn wir y dywedaf wrthych, Pa bethau bynnag a rwymoch ar y ddaear, fyddant wedi eu rhwymo yn y nef; a pha bethau bynnag a ollyngoch ar y ddaear, fyddant wedi eu gollwng yn y nef. 19Etto y dywedaf wrthych, Os dau o honoch a gydsyniant ar y ddaear am neb rhyw beth a ofynant, bydd efe iddynt gan Fy Nhad yr Hwn sydd yn y nefoedd, 20canys lle y mae dau neu dri wedi ymgynnull yn Fy enw I, yno yr wyf yn eu canol.
21Yna, wedi dyfod Atto, Petr a ddywedodd Wrtho, Arglwydd, pa sawl gwaith y pecha fy mrawd i’m herbyn, ac y maddeuaf iddo? 22Ai hyd seithwaith? Dywedodd yr Iesu wrtho, Ni ddywedaf wrthyt hyd seithwaith, eithr hyd ddengwaith a thrugain seithwaith. 23Gan hyny, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i frenhin a ewyllysiodd gymmeryd cyfrif gyda’i weision. 24Ac wedi dechreu o hono ei gymmeryd, dygpwyd atto ddyledwr o ddeng mil o dalentau. 25Ac efe heb ganddo fodd i dalu, archodd ei arglwydd ei werthu ef, a’i wraig, a’i blant, a’r cwbl o’r a feddai, a thalu’r ddyled. 26Wedi syrthio i lawr, gan hyny, y gwas a’i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, bydd ymarhous wrthyf, a’r cwbl a dalaf i ti. 27A chan dosturio, arglwydd y gwas hwnw a’i gollyngodd, a’r ddyled a faddeuodd efe iddo. 28Ac wedi myned allan, y gwas hwnw a gafodd un o’i gydweision, yr hwn yr oedd arno iddo gàn denar; ac wedi ymaflyd ynddo, llindagodd ef, gan ddywedyd, Tâl, os oes arnat ddim. 29Wedi syrthio i lawr, gan hyny, ei gydwas a ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd, Bydd ymarhous wrthyf a thalaf i ti. 30Ac efe ni fynai; eithr, wedi myned ymaith, bwriodd ef yngharchar hyd oni thalai yr hyn oedd ddyledus. Gan weled, gan hyny, o’i gydweision y pethau a wnelsid, 31poenwyd hwynt yn ddirfawr: ac wedi myned, mynegasant i’w harglwydd yr holl bethau a wnelsid. 32Yna, wedi ei alw ef atto, ei arglwydd a ddywedodd wrtho, Gwas drwg, yr holl ddyled honno a faddeuais i ti am i ti ymbil â mi; 33ac onid oedd rhaid i ti hefyd dosturio wrth dy gydwas, fel y bu i mi dosturio wrthyt ti? 34Ac wedi digio, ei arglwydd a’i traddododd ef i’r poenwyr, hyd oni thalai yr oll oedd ddyledus. 35Felly hefyd Fy Nhad nefol a wna i chwi, os na faddeuoch, bob un i’w frawd, o’ch calon.
Dewis Presennol:
S. Matthew 18: CTB
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.