S. Matthew 10
10
1Ac wedi galw Atto Ei ddeuddeg disgybl, rhoddes iddynt awdurdod dros ysprydion aflan, i’w bwrw hwynt allan, ac i iachau pob clefyd a phob afiechyd.
2Ac enwau y deuddeg apostol yw y rhai hyn: Cyntaf, Shimon, yr hwn a elwir Petr, ac Andreas ei frawd; Iago mab Zebedëus, ac Ioan ei frawd; 3Philip, a Bartholemëus; Thomas, a Matthew y treth-gymmerwr; Iago mab Alphëus, a Thadëus; 4Shimon y Cananead, ac Iwdas Iscariot, yr hwn hefyd a draddododd Ef. 5Y deuddeg hyn a ddanfonodd yr Iesu, wedi gorchymyn iddynt, gan ddywedyd, I ffordd y cenhedloedd nac ewch; ac i ddinas o eiddo’r Shamariaid nac ewch i mewn: 6ond ewch yn hytrach at ddefaid colledig tŷ Israel. 7Ac wrth fyned pregethwch, gan ddywedyd, Nesaodd teyrnas nefoedd. 8Cleifion iachewch; meirw cyfodwch; gwahanglwyfusion glanhewch; cythreuliaid bwriwch allan: yn rhad y derbyniasoch, rhad-roddwch. 9Na cheisiwch aur, nac arian, na phrês i’ch gwregysau, 10nac ysgrepan i’r daith, na dwy bais, nac esgidiau, na ffon, canys haeddu ei fwyd y mae’r gweithiwr. 11Ac i ba ddinas bynnag, neu bentref, yr eloch i mewn, chwiliwch allan pwy ynddi sydd deilwng; ac yno arhoswch, hyd onid eloch allan. 12Ac wrth fyned i mewn i’r tŷ, cyferchwch well iddo: 13ac os bydd y tŷ yn deilwng, deued eich tangnefedd arno; ond os na fydd deilwng, bydded i’ch tangnefedd ddychwelyd attoch. 14A phwy bynnag na’ch derbynio, ac na wrandawo eich geiriau, wrth fyned allan o’r tŷ neu y ddinas honno, ysgydwch ymaith lwch eich traed. 15Yn wir meddaf i chwi, Mwy goddefadwy fydd i dir Sodom a Gomorrah yn nydd y farn nag i’r ddinas honno.
16Wele, Myfi wyf yn eich danfon fel defaid ynghanol bleiddiaid; byddwch, gan hyny, yn gall fel y seirph, ac yn ddiniweid fel y colommenod. 17Ond gwyliwch rhag dynion, canys rhoddant chwi i fynu i gynghorau, ac yn eu sunagogau y’ch ffrewyllant; 18a cher bron llywiawdwyr a brenhinoedd y’ch dygant o’m hachos I, er tystiolaeth iddynt ac i’r cenhedloedd. 19Ond pan draddodant chwi, na phryderwch am ba fodd neu ba beth a lefaroch: canys rhoddir i chwi yn yr awr honno ba beth a lefaroch: 20canys nid chwychwi sy’n llefaru, eithr Yspryd eich Tad yr Hwn sydd yn llefaru ynoch. 21A thraddoda brawd frawd i farwolaeth, a thad ei blentyn; a chyfyd plant yn erbyn rhieni, ac a barant eu marwolaeth. 22A byddwch gas gan bawb o achos Fy enw; ond yr hwn a barhao hyd y diwedd, efe fydd gadwedig. 23A phan erlidiant chwi yn y ddinas hon, ffowch i’r llall; canys yn wir y dywedaf wrthych, na orphenwch ddinasoedd Israel nes dyfod Mab y Dyn.
24Nid yw disgybl yn uwch na’r athraw, na’r caethwas yn uwch na’i arglwydd; 25digon i’r disgybl fod fel ei athraw, ac y caethwas fel ei arglwydd. Os perchen y tŷ a alwasant “Beelzebub,” pa faint mwy ei dylwyth? 26Am hyny, nac ofnwch hwynt; canys nid oes dim wedi ei orchuddio, yr hwn ni ddatguddir; na chuddiedig, yr hwn ni wybyddir. 27Yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd wrthych yn y tywyllwch, mynegwch yn y goleuni; a’r hyn a glywch yn y glust, cyhoeddwch ar bennau’r tai. 28Ac nac ofnwch rhag y rhai sy’n lladd y corph, ond yr enaid na allant ei ladd; ond ofnwch yn hytrach yr Hwn sy’n abl i ddistrywio enaid a chorph yn Gehenna. 29Onid yw dau aderyn y tô i’w gwerthu er assar? ac un o honynt ni syrth ar y ddaear heb eich Tad: 30ond hyd yn oed gwallt eich pen chwi ydynt i gyd wedi eu cyfrif. 31Gan hyny, nac ofnwch; ar lawer adar y tô yr ydych chwi yn rhagori.
32Pob un, gan hyny, a’m haddefo I ger bron dynion,
Addefaf Finnau hefyd ef ger bron Fy Nhad y sydd yn y nefoedd:
33A phwy bynnag a’m gwado I ger bron dynion,
Gwadaf Finnau hefyd ef ger bron Fy Nhad y sydd yn y nefoedd.
34Na thybiwch y daethum i ddanfon heddwch ar y ddaear: 35ni ddaethum i ddanfon heddwch, eithr cleddyf: canys daethum i wahanu dyn yn erbyn ei dad, a merch yn erbyn ei mam, a gwaudd yn erbyn ei chwegr; 36a gelynion dyn a fydd tylwyth ei dŷ. 37Yr hwn sy’n caru tad neu fam yn fwy na Myfi, nid yw deilwng o Honof Fi; a’r hwn sy’n caru mab neu ferch yn fwy na Myfi, nid yw deilwng o Honof Fi: 38a’r hwn nad yw yn cymmeryd ei groes ac yn canlyn ar fy ol I, nid yw deilwng o Honof Fi. 39Yr hwn sy’n cael ei einioes, a’i cyll; a’r hwn a gollo ei einioes o’m hachos I, a’i caiff.
40Yr hwn sydd yn eich derbyn chwi, Myfi y mae efe yn ei dderbyn; a’r hwn sydd yn Fy nerbyn I, derbyn yr Hwn a’m danfonodd y mae. 41Yr hwn sy’n derbyn prophwyd yn enw prophwyd, gwobr prophwyd a gaiff efe; a’r hwn sy’n derbyn un cyfiawn yn enw un cyfiawn, gwobr un cyfiawn a gaiff efe. 42A phwy bynnag a roddo i’w yfed i un o’r rhai bychain hyn phiolaid o ddwfr oer yn unig yn enw disgybl, yn wir meddaf i chwi, Ni chyll mo’i wobr.
Dewis Presennol:
S. Matthew 10: CTB
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.