Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eshaiah 47

47
XLVII.
1Disgyn ac eistedd yn y llwch, forwyn ferch Babilon,
Eistedd ar y ddaear, heb orseddfaingc, ferch y Caldeaid,
Canys ni chwannegi mwy iddynt dy alw Y dyner a’r foethus.
2 # 47:2 gwaith caethweision. Cymmer y meini melin, a mala flawd,
Datguddia dy lowethau, noetha dy laeswallt,
Datguddia dy goes, dos trwy’r afonydd.
3Datguddir dy noethni, ië, gwelir dy warth;
Dïal a gymmeraf, ni oddefaf eirioli o ddyn drosot.
4 # 47:4 Côr. Ein Hadbrynwr (yw) Iehofah y lluoedd,
Ei enw (Ef) Sanct Israel.
5Eistedd yn ddistaw, a dos i dywyllwch, ferch y Caldeaid,
Canys ni chwannegi mwy iddynt dy alw Arglwyddes y teyrnasoedd.
6 # 47:6 Offeryn Duw oedd Babilon i gospi ’r Iwddewon, ond ei hymddygiad a aeth yn ormesawl ac yn falch. Mi a ddigiais wrth Fy mhobl, halogais Fy etifeddiaeth,
A rhoddais hwynt yn dy law di;
Ni channiattêaist iddynt drugaredd,
Ar yr hên trymhëaist dy iau yn ddirfawr;
7A dywedaist, Yn dragywydd y byddaf Arglwyddes.
O herwydd na roddaist y pethau hyn at (dy) galon,
Na chofiaist yr hyn a ddigwydd i ti;
8Ond yn awr gwrando hyn, ti foethus yn eistedd yn ddiofal,
Yn dywedyd yn dy galon, Myfi (sydd), ac heblaw fi nid neb arall,
Ni chaf eistedd yn weddw, na gwybod dïeppiledd.
9 # 47:9 Ei chospedigaeth am hynny. Ond fe ddaw arnat y ddau hyn mewn amrant,
Mewn un dydd, (sef,) dïeppiledd a gweddwdod;
Yn ddisymmwth y deuant arnat,
Yn amlder dy hudoliaethau a 3dirfawr 1nerth dy 2swynion:
10Ond ymddiriedaist yn dy ddrygioni, a dywedaist Nid (oes) a’m gwêl;
Dy ddoethineb a ’th wybodaeth hon a ’th ŵyrdroisant,
A dywedaist yn dy galon, Myfi (sydd) ac heblaw fi neb arall.
11Am hynny y daw arnat ddrwg (ac) ni chanfyddi wawr,
A syrth arnat ddinystr nas gellych wneuthur cymmod drosto,
A daw arnat yn ddisymmwth ddistryw ag na bu gwybodaeth (o honaw) gennyt.
12Saf yn awr yn dy swynion,
Ac yn amlder dy hudoliaethau, yn y rhai yr ymboenaist o’th ieuengctid,
Ysgatfydd y gelli ganfod lles, ysgatfydd y cadarnhêir di.
13Ymflinaist yn amlder dy gynghorion,
Safed hwy yn awr, a rhodded hwy iachawdwriaeth i ti,
(Sef) y rhai (sy) ’n cyssylltu (arwyddion) y nefoedd, y rhai (sy) ’n tremio ar y sêr,
Y rhai (sy) ’n hyspysu pob mis
Pa beth (yw) ’r hyn a ddaw arnat:
14Wele, y maent fel sofl, y tân a’u llysg hwynt,
Ni waredant eu heinioes eu hunain o law ’r fflam;
Ni (bydd) marworyn i ymdwymno, (na) thân i eistedd ar ei gyfer.
15Felly y bydd i ti y rhai y’r ymboenaist (â hwynt),
Y rhai y bu dy fasnach â hwynt o’th ieuengctid,
Pob un i’w ffordd ei hun y crwydrant,
Ni (bydd) a rydd iachawdwriaeth i ti.

Dewis Presennol:

Eshaiah 47: CTB

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda