Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eshaiah 21

21
XXI.
1 yr # 21:1 Cynnwys y ddeg adnod flaenaf o’r bennod hon brophwydoliaeth am oresgyniad Babilon gan y Mediaid a’r Persiaid. Lle hynod o’i fath ydyw, o herwydd ei grynodeb a’i rym; o herwydd amrywiaeth a chyflymder y cyfnewidiadau; ac o herwydd y nerth a’r eglurdeb â’r rhai y portreiadir y weithred a’r digwyddiad. Dechreua y Prophwyd drwy edrych o bell ar y dymmestl sydd yn ymgasglu ac yn barod i ruthro ar Babilon. Datgenir y canlyniadau mewn geiriau cyffredinol; a chyhoeddir gorchymyn Duw i’r Persiaid a’r Mediaid i ddechreu ar y gorchwyl a roddodd Duw dan eu gofal. Ar hyn y mae y Prophwyd yn ymddangos yng nghanol y peth, ac, yn enw Babilon, yn cyhoeddi gyd â’r geiriau mwyaf brawychus y syndod a’r arswyd a’i goddiwes o herwydd goresgyniad disyfyd y ddinas ar y tymmor a briodolwyd i lawenydd a rhialtwch, adn. 3, 4.: yna yn ei enw ei hun darlunia y Prophwyd gyflwr y lle, ddïofalwch y Babiloniaid, ac yng nghanol eu gloddest, ddychryn disymmwth y rhyfel, adn. 5. Wedi hyn adroddir y digwyddiad mewn dull tra hynod. Y mae Duw yn gorchymyn i’r Prophwyd osod gwyliedydd i wylied ac i fynegu yr hyn a wêl: y mae yntau yn gweled dwy fintai yn agosâu, y rhai wrth eu hymddangosiad a gynnrychiolant y ddwy genedl ag oeddynt i gyflawni eirchion Duw, a hwy a gyhoeddant fod Babilon wedi syrthio, adn. 6-9. Ond beth yw hyn i’r Prophwyd, ac i’r Iwddewon, gwrthddrych ei weinidogaeth? Rhoddir cynhwysiad a diwedd a diben y brophwydoliaeth mewn annerchiad dwys i’r Iwddewon, o ran yn enw y Prophwyd, ac o ran yn enw Duw: “O fy nyrniad!” sef, “O Fy mhobl, y rhai er eich cospi yr wyf yn eich rhoddi tan awdurdod y Babiloniaid, er mwyn eich chwilio a’ch profi, a thynnu yr ûs oddi wrth yr ŷd, y da oddi wrth y drwg yn eich mysg, clywch hyn er eich cysur: eich cosp, eich caethiwed a’ch gorthrymder, a ddibenir yn ninystr eich gorthrymwŷr.” ymadrodd yngylch anialwch y môr (Babilon).
Fel corwỳntoedd yn y dehau yn rhuthro heibio,
O’r anialwch y daw efe, o wlad ofnadwy.
2Gweledigaeth galed! Mynegwyd i mi!
Yr anrheithiwr yn anrheithiedig! A’r dinystrydd yn ddinystriedig!
Dos i fynu, Elam! Gwarchae, Media!
Yr holl riddfan oddiwrthi hi a atteliais.
3Gan hynny y llanwyd fy llwynau o ddolur;
Gwewyr a’m daliasant, fel gwewyr gwraig yn esgor;
Dirdynwyd fi fel na allwyf glywed, brawychais fel na allwyf weled!
4Dyryswyd fy nghalon! Braw a’m dychrynodd!
Fy nghyfnos ddymunol a drôdd efe i mi yn ddychryn.
5Parottôwyd y bwrdd; gwylied y mae’r gwyliedydd;
Y maent yn bwytta; y maent yn yfed.
Cyfodwch, dywysogion; eneinniwch y darian.
6O herwydd fel hyn y dywedodd yr 2Arglwydd 1wrthyf,
Dos, gosod wyliedydd;
Yr hyn a welo, myneged efe.
7Ac efe a welodd farchoglu, par o farchogwŷr,
Marchoglu ar asynod, marchoglu ar gamelod;
Ac efe a ystyriodd âg ystyriaeth, mawr ystyriaeth.
8A llefodd y gwyliedydd ar yr wylfa,
Fy Arglwydd, myfi yn sefyll beunydd trwy ’r dydd (yr wyf),
Ac ar fy ngwyliadwriaeth y’m gosodwyd yr holl nos,
9Ac wele hyn yn dyfod, (sef) marchoglu o ddynion, par o farchogwŷr.
Ac efe a attebodd ac a ddywedodd, Syrthiodd, Syrthiodd Babilon,
A holl ddelwau cerfiedig ei duwiau hi a ddryllir i lawr.
10O Fy nyrniad, a mab Fy llawr-dyrnu!
Yr hyn a glywais gan Iehofah y lluoedd, Duw Israel,
A fynegais i chwi.
11 # 21:11 Prophwydoliaeth lwyr-aneglur. yr ymadrodd yngylch dwmah.
# 21:11 Targwm, 11 & 12. Y mae un yn galw attaf o’r Nefoedd, Prophwyd, mynega iddynt y brophwydoliaeth; Prophwyd, mynega iddynt yr hyn sydd ar fedr dyfod. Dywedodd y prophwyd, Y mae gwobr i’r cyfiawn, ac y mae cospedigaeth i’r anghyfiawn. Os dychwelyd a wnewch, dychwelwch tra y gellwch ddychwelyd. Arnaf fi y mae un yn galw o Seir,
Gwyliedydd, beth oddiwrth y nos?
Gwyliedydd, beth oddiwrth y nos?
12Fe ddywed y gwyliedydd,
Yn dyfod y mae’r bore, ac hefyd, y nos,
Os ceisiwch, ceisiwch; dychwelwch, deuwch.
13 # 21:13 cyfeirir at gyfyngder yr Arabiaid. Tebygol y w i hyn ddyfod arnynt oddi ar law Sennacherib pan ar ei daith i’r Aipht, neu ar ei ddychweliad oddi yno. yr ymadrodd yngylch arabia.
Yn y coed yn y prydnhawn y llettŷwch,
O deith-finteioedd Dedan.
14I gyfarfod â’r sychedig dygwch ddyfroedd,
Chwi drigolion y deheudir;
 bara achubwch flaen y crwydriad.
15O herwydd rhag cleddyfau y ffoisant,
Rhag y cleddyf noeth,
Rhag y bwa annelog,
A rhag trymder rhyfel.
16O herwydd fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthyf fi,
Cyn pen blwyddyn, o fath blwyddyn gwas cyflog,
Y derfydd holl ogoniant Cedar.
17A’r gweddill o rifedi ’r saethyddion cedyrn,
O feibion Cedar, a leihêir:
Canys Iehofah, Dduw Israel, a’i dywedodd.

Dewis Presennol:

Eshaiah 21: CTB

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda