Logo YouVersion
Eicon Chwilio

I. Corinthiaid 5

5
1Yn hollol y clywir am odineb yn eich plith, a’r fath odineb ag nad oes hyd yn oed ym mhlith y cenhedloedd, 2fod gwraig ei dad gan ryw un; a chwithau ydych wedi eich chwyddo, ac ni fu i chwi yn hytrach alaru fel y rhoddid allan o’ch plith chwi yr hwn a wnaeth y weithred hon; 3canys myfi yn wir yn absennol yn y corph ond yn bresennol yn yr yspryd, a fernais eisoes, fel pe bawn yn bresennol, 4yr hwn a wnaeth hyn felly, yn enw ein Harglwydd Iesu, wedi dyfod ynghyd o honoch a’m hyspryd i, 5ynghyda gallu ein Harglwydd Iesu, draddodi y cyfryw un i Satan er dinystr y cnawd, fel y bo i’r yspryd ei achub yn nydd yr Arglwydd Iesu. 6Nid da eich ymffrost. Oni wyddoch fod ychydig lefain yn lefeinio’r holl does? 7Certhwch allan yr hen lefain fel y byddoch does newydd, fel yr ydych yn ddilefeinllyd; canys ein pasg a aberthwyd, sef Crist: 8gan hyny, cadwn yr wyl, nid â lefain hen, nag â lefain drygioni ac anfadrwydd, eithr â bara croyw purdeb a gwirionedd.
9Ysgrifenais attoch yn fy epistol i beidio ag ymgymmysgu â godinebwyr; 10nid yn hollol â godinebwyr y byd hwn, neu â chybyddion, a rheibusion, neu âg eulunaddolwyr, canys felly y byddai rhaid i chwi fyned allan o’r byd; 11ond yr awrhon ysgrifenu attoch yr wyf i beidio ag ymgymmysgu, os rhyw un a enwir yn frawd fydd odinebwr, neu gybydd, neu eulun-addolwr, neu ddifenwr, neu feddwyn, neu rheibus, â’r cyfryw un i beidio ag hyd yn oed fwytta; 12canys pa beth sydd genyf fi a barnu y rhai sydd oddi allan? Onid y rhai sydd oddi mewn yr ydych chwi yn eu barnu, 13ac y rhai oddi allan y mae Duw yn eu barnu? Rhoddwch y drygddyn allan o’ch plith chwi.

Dewis Presennol:

I. Corinthiaid 5: CTB

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda