Mathew 2:12-13
Mathew 2:12-13 MATIFE61
Yna, am eu bod wedi'u rhybuddio mewn breuddwyd i beidio â mynd yn ôl at Herod, aethant adref i'w gwlad ar hyd ffordd wahanol. Wedi iddynt fynd, dyma angel oddi wrth yr Arglwyd yn ymddangos i Joseff mewn breuddwyd, ac yn dweud, “Cod, a chymer y plentyn bach a'i fam, a dianc i'r Aifft. Ac aros yno nes imi ddweud wrthyt-ti. Mae Herod yn chwilio am y plentyn bach i roi diwedd arno.”




